Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Chwyldro Mecsico"

Lleihawyd o 3 beit ,  5 mis yn ôl
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac heb → a heb (2) using AWB
(→‎Cefndir: ehangu)
Tagiau: 2017 source edit
(Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac heb → a heb (2) using AWB)
Ym 1876, dymchwelwyd yr Arlywydd [[Sebastián Lerdo de Tejada]] gan wrthryfel dan arweiniad y Cadfridog [[Porfirio Díaz]], a chafodd ei ethol yn arlywydd newydd Mecsico ym Mai 1877. Ac eithrio'r cyfnod 1880–84, pryd gwasanaethodd y Cadfridog [[Manuel González]] yn arlywydd, Díaz oedd unben y wlad am fwy na 30 mlynedd, cyfnod a elwir ''el porfiriato''. Erbyn dechrau'r 1900au roedd Díaz yn ei saithdegau, a chwestiwn ei olyniaeth yn tynnu sylw ei gefnogwyr yn ogystal â'i wrthwynebwyr. Y ddwy brif ochr yn y llywodraeth oedd cylch y ''científicos'' a oedd yn cynghori'r Arlywydd Díaz, a'r ''caudillos'' taleithiol, gan gynnwys y gweinidog rhyfel [[Bernardo Reyes]]. Lladmeryddion gwleidyddiaeth [[positifiaeth|bositifaidd]] oedd y ''científicos'', yn gysylltiedig â dynion busnes Dinas Mecsico, a ddymunasant plaid ganolog, genedlaethol i weithredu llywodraeth dechnocrataidd. Ffurfiwyd hefyd Plaid Ryddfrydol Mecsico (PLM) gan ryddfrydwyr a oedd yn credu bod Díaz yn cyfeiliorni ar Gyfansoddiad 1857, ac enillodd y blaid hon gefnogaeth wrth i [[chwyddiant]], [[diweithdra]], a streiciau waethygu yn y 1900au.
 
Erbyn y 1900au, seithfed tymor Díaz yn arlywydd, daeth anniddigrwydd o sawl carfan yng nghymdeithas Mecsico. Bellach roedd cylch ffyddlon Díaz yn heneiddio aca heb newid arnynt, gan ddigio aelodau ieuengaf yr elitau yn y dinasoedd a chefn gwlad. Teimlodd gweithwyr proffesiynol a deallusion y dosbarth canol hefyd eu bod wedi eu cau allan o'r byd gwleidyddol aca heb ddylanwad ar lywodraeth y wlad. Ffurfiwyd cymdeithasau a phleidiau newydd ar draws y wlad i drafod [[gweriniaetholdeb]], i bwyso yn erbyn grym [[yr Eglwys Gatholig]], ac i wrthwynebu ymdrechion Díaz i newid y cyfansoddiad ac estyn cyfnod ei arlywyddiaeth.
 
Ym 1900, dechreuodd yr amryw gymdeithasau rhyddfrydol ym Mecsico gyfuno i ffurfio'r Blaid Ryddfrydol (''Partido Liberal Mexicano''; PLM). Un o brif arianwyr y PLM oedd Francisco Madero, tirfeddiannwr a deallusyn cefnog o [[Coahuila]]. Wrth i'r sefyllfa economaidd waethygu, trodd aelodaeth y PLM yn fwyfwy radicalaidd. Cyhoeddwyd y cylchgrawn [[anarchiaeth|anarchaidd]] ''Regeneración'' gan y brodyr Ricardo ac Enrique Flores Magón, a ddylanwadai ar nifer o weithwyr ffatri i ymaelodi â'r PLM. Cafodd y brodyr Flores Magón a radicalwyr eraill eu carcharu gan Díaz mewn ymgais i atal chwyldro, ac aeth nifer ohonynt yn alltud i'r Unol Daleithiau. Gadawodd Madero y PLM erbyn 1909, am fod y blaid yn rhy anarchaidd ei hideoleg, ond fe barhaodd i wrthwynebu llywodraeth Díaz.
== Y Chwyldro Rhyddfrydol (1910–13) ==
=== Y gwrthryfel yn erbyn Díaz (1910–11) ===
Yn nhermau gwleidyddol, cychwynnodd chwyldro 1910–11 fel mudiad cyfansoddiadol o fewn y garfan Ryddfrydol. Yn sgil sefydlu'r Weriniaeth Adferedig gan [[Benito Juárez]] o'r hen Blaid Ryddfrydol (''Partido Liberal''; PL) ym 1867, cafodd sawl norm ei gyflwyno i wleidyddiaeth Mecsico: ymlediad y grymoedd arlywyddol, twf canoliaeth, ac ailetholiadaeth. Ym 1871 a 1876 bu "etholfraint effeithiol" yn bwnc pwysig.
 
Wedi i Madero gael ei ryddhau o'r carchar, ffoes i [[Texas]] ac yno cyhoeddodd Gynllun San Luis Potosí ar 20 Tachwedd 1910. Dechreuodd ddau wrthryfel gan werinwyr yn erbyn tirfeddianwyr ym Mecsico: dan arweiniad Pascual Orozco a [[Pancho Villa]] yn [[Chihuahua]], a gwrthryfel y ''pueblos'' dan [[Emiliano Zapata]] ym [[Morelos]]. Yn Chwefror 1911 croesodd Madero y ffin i Chihuahua a chymerodd awennau'r chwyldro, gyda chydsyniad mud llywodraeth yr Unol Daleithiau. Sefydlwyd llywodraeth dros dro ganddo yn [[Ciudad Juárez]].
450,490

golygiad