Estonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 19:
Yn ystod yr [[Yr Ail Ryfel Byd|Ail Ryfel Byd]], cafodd Estonia ei meddiannu gan yr [[Yr Undeb Sofietaidd|Undeb Sofietaidd]] yn 1940, ac yna yr Almaen Naziaidd y flwyddyn ganlynol, hyd nes iddi gael ei hadfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1944 a hynny fel y Weriniaieth Sofiet Sosialaidd Estonaidd.
Mae Estonia yn wlad ddatblygiedig gydag economi flaengar, incwm uchel sydd ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ei [[Mynegai Datblygiad Dynol]] yn uchel iawn ac mae'n perfformio'n uchel iawn ar fesuriadau rhyddid economaidd, rhyddfreiniau a rhyddid y wasg. Roedd prawf [[Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr|PISA]] 2015 yn gosod ysgolion uwchradd Estonia yn drydydd yn y byd, ar ol [[Singapôr]] a [[Japan]]. Mae dinasyddion Estonia yn derbyn gwasanaeth iechyd, addysg am ddim, a'r cyfnod mamolaeth hiraf gyda thâl yn yr OECD. Ers iddi gael ei hannibyniaeth, mae'r wlad wedi datblygu ei sector technoleg gwybodaeth yn gyflym, gan ddod yn un o gymdeithasau digidol mwyaf blaengar y byd. Yn 2005 Estonia oedd y genedl gyntaf i gynnal etholiadau ar y rhyngrwyd, ac yn 2014 y genedl gyntaf i ddarparu [[E-breswyliad]].
|