Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rym"

Lleihawyd o 1 beit ,  11 mis yn ôl
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
(→‎Darllen pellach: llyfr Foss)
Tagiau: 2017 source edit
(→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB)
Cynhyrchir rym mewn nifer o wledydd [[trofannau|trofannol]], yn bennaf yn [[y Caribî]], gan gynnwys [[Ciwba]], [[Jamaica]], [[Barbados]], [[Trinidad a Thobago]], a [[Puerto Rico]], ond hefyd [[Unol Daleithiau America]], [[Brasil]], [[Madagasgar]], ac [[Indonesia]]. Rhennir yn rymiau cryf neu dywyll, sy'n ddiod gadarn; a rhymiau ysgafn neu wyn, a chanddynt flas sych. Daw rymiau ysgafn o ynysoedd [[Sbaeneg]] y Caribî, megis Ciwba a Puerto Rico, ac wrth deithio i'r de mae'r rym yn dywyllach ei lliw ac yn fwy cadarn ei flas. Jamaica sydd yn meddu ar yr enw gorau am wneud rym tywyll. Modd arall o ddosbarthu rymiau yw'r tri prif gategori: Ciwba, Jamaica, ac India'r Dwyrain (hynny yw, Indonesia); a mathau sy'n tarddu o wledydd eraill, gan gynnwys ''aguardiente'' ([[Sbaen]], [[Portiwgal]], a [[De America]]), ''cachaca'' (Brasil), gwirod y gansen ([[De Affrica]]), a rym Demerara ([[Gaiana]]).<ref name=FN/>
 
Yfir [[diod blaen|rym ar ei ben ei hun]] yn y gwledydd sy'n ei gynhyrchu. Fe'i ddefnyddir mewn [[diod gymysg|diodydd cymysg]] mewn ardaloedd eraill: rhoddir rym ysgafn gan amlaf mewn [[coctel]]s yr haf megis y ''[[daiquiri]]'' a'r ''[[Cuba libre]]'', tra bo [[diod hir|diodydd hir]], er enghraifft y Rum Collins, yn cynnwys rym tywyll. Yn hanesyddol cafodd rym Americanaidd ei gymysgu gyda [[triagl strapddu|thriagl strapddu]] a'i alw'n ''blackstrap'', neu ei gymysgu gyda [[seidr]] i wneud diod ''stonewall''.<ref name=EB/> Gwneir diodydd poeth o rym tywyll, megis [[grog]], sy'n boblogaidd mewn gwledydd oer megis Prydain.<ref name=Columbia>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.encyclopedia.com/topic/rum.aspx#1 |teitl=rum |gwaith=The Columbia Encyclopedia |cyhoeddwr=Encyclopedia.com |dyddiad=2016 |dyddiadcyrchiad=28 Mehefin 2016 }}</ref> Cynhwysir mewn [[saws]]iau melys ac ambell [[pwdin]], er enghraifft [[teisen rym]], aca hefyd ei ddefnyddio i flasu [[tybaco]].<ref name=EB/>
 
== Hanes==
452,433

golygiad