Dadeni'r Gogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210222)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Llinell 3:
Y ffurf ar [[y Dadeni Dysg]] a ddigwyddodd yng ngwledydd [[Ewrop]] i ogledd mynyddoedd [[yr Alpau]], yn enwedig [[yr Almaen]], [[Ffrainc]], y Gwledydd Isel, [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]], a [[Gwlad Pwyl]], oedd '''Dadeni'r Gogledd'''. Cychwynnodd y Dadeni yn [[yr Eidal]] yn y 14g, ac ymledodd i [[Sbaen]] a [[Portiwgal|Phortiwgal]] cyn iddo ddechrau dylanwadu ar ddiwylliant [[Gogledd Ewrop]] yn niwedd y 15g. Yn ogystal â mabwysiadu syniadau ac arddulliau o gelf, pensaernïaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ac ysgolheictod Eidalaidd, bu gwledydd Gogledd Ewrop yn datblygu mudiadau cenedlaethol a rhanbarthol eu hunain a chanddynt wahanol nodweddion a ffasiynau.
 
Yn [[Ffrainc]], cyflwynodd [[Ffransis I, brenin Ffrainc|y Brenin Ffransis I]] (t. 1515–47) arddulliau a themâu celf y Dadeni i'w deyrnas drwy brynu celfyddydweithiau o'r Eidal, comisiynu paentiadau gwreiddiol gan arlunwyr Eidalaidd, gan gynnwys [[Leonardo da Vinci]], ac adeiladu palasau crand drudfawr. Yn y Gwledydd Isel, cynyddodd cysylltiadau diwylliannol â'r Eidal ar y cyd â thwf masnachol mewn dinasoedd porthladdoedd megis [[Brugge]] ac [[Antwerp]]. Er i artistiaid yng Ngogledd Ewrop dynnu yn fwyfwy ar fodelau'r Eidalwyr wrth i'r 15g a'r 16g fynd rhagddi, parhaodd dylanwadau'r Gothig Diweddar yn nodweddiadol o gelf, a phensaernïaeth yn enwedig, nes dyfodiad [[Baróc|yr oes Faróc]].<ref name="Janson">{{Cite book|last=Janson|first=H.W.|last2=Anthony F. Janson|year=1997|title=History of Art|url=https://archive.org/details/historyofart0000jans|edition=5th, rev.|publisher=Harry N. Abrams, Inc.|location=New York|isbn=0-8109-3442-6}}</ref>
 
Hwyluswyd ymledu ysbryd yr oes ar draws Ffrainc, y Gwledydd Isel, a'r [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]], ac yna i wledydd [[Llychlyn]] ac ynys [[Prydain Fawr|Prydain]] yn ail hanner yr 16g, gan y prifysgolion a'r [[wasg argraffu]], a ddyfeisiwyd ym 1450 gan [[Johannes Gutenberg]]. Dylanwadwyd yn fawr ar lenorion ac ysgolheigion fel [[François Rabelais|Rabelais]], [[Pierre de Ronsard]], a [[Desiderius Erasmus]] gan fodel y [[Dyneiddiaeth|dyneiddwyr]] Eidalaidd ac roeddent yn rhan o'r un mudiad deallusol. Yn ystod y Dadeni Seisnig, a chyd-ddigwyddodd ag [[oes Elisabeth]], blodeuai rhai o'r dramodwyr gwychaf yn hanes llenyddiaeth Saesneg, megis [[William Shakespeare]] a [[Christopher Marlowe]]. Daethpwyd â'r Dadeni i Wlad Pwyl yn uniongyrchol o'r Eidal gan arlunwyr o [[Fflorens]] a'r Gwledydd Isel.