Deinosor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: meddianu → meddiannu using AWB
Llinell 28:
}}
 
[[Ymlusgiad|Ymlusgiaid]] sydd wedi darfod o'r tir, rhai ohonynt yn meddianumeddiannu corff enfawr, yw '''deinosoriaid'''. Roedd y deinosoriaid cyntaf yn byw tua 210 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond amryfalasant yn gyflym ar ôl y cyfnod [[Triasig]]. Roeddent yn fwyaf niferus yn ystod y cyfnodau [[Jwrasig]] (ee [[Stegosaurus]]) a [[Cretasaidd|Chretasaidd]], ond wedi'r cyfnod Cretasaidd diflanodd pob rywogaeth ohonynt, heblaw am y rheini a ddatblygodd i fod yn [[aderyn|adar]], yn ystod y [[Difodiant Cretasaidd-Paleogen]] tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
 
Defnyddiodd [[Richard Owen]], gwyddonydd a hanai o Gymru, y gair ''Dinosauria'' yn gyntaf ym mlwyddyn [[1842]]. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd ''deinos'' ("ofnadwy" neu "arswydus") a ''sauros'' ("[[genau-goeg]]" neu "ymlusgiad"). Enwyd un rhywogaeth ar ôl Richard Owen, tad y deinosoriaid, sef yr Owenodon.
Llinell 36:
Ar wahân i Richard Owen, ceir llawer o baleontolegwyr eraill yng Nghymru a ystyrir o bwys mawr, gan gynnwys [[Dorothea Bate]] a aned yn [[Sir Gaerfyrddin]], y ferch gyntaf i weithio yn ''Natural History Museum'', Llundain.
 
Dim ond mewn creigiau a gafwyd eu ffurfio yn y cyfnodau Triasig a'r Jurasig y ceir olion deinororiaid, ac mae'r rhan fwyaf o greigiau drwy Gymru yn llawer hŷn na hynnny ac felly wedi eu ffurfio cyn oes y Deinosoriaid. Ond fe'i ceir mewn un rhan yn y de - rhwng [[Porthcawl]] a [[Penarth|Phenarth]], ond prin iawn ydy'r olion:
 
* [[Ichthyosaur]]iaid yn bennaf. Mae ffosiliau o'r rhain wedi'u ffurfio pan syrthion nhw i'r môr, neu'r traeth a'u gorchuddio gan dywod yn eitha sydyn, cyn iddyn nhw gael eu bwyta. Roedd gan yr ichthyosaur gorff tebyg i ddolffin a dannedd miniog i ddal a llarpio cig.
 
* [[Dracoraptor|Dracoraptor hanigani]] - canfuwyd ei ffosiliau ar draeth Larnog (''Lavernock'') gan Nick a Rob Hanigan, o [[Llanilltud Fawr|Lanilltud Fawr]] yng ngwanwyn 2014. Y penglog ddaeth gyntaf ac yna esgyrn eraill. Galwyd ef yn "Dracoraptor " (draig-leidr). Roedd yn 2.2tr o daldra a 6.5 tr o'i ben i'w gynffon. Canfuwyd 40% o esgyrn yr anifail. Mae'n deillio o ddechrau'r cyfnod Jwrasig, pan oedd yr hinsawdd yn yr ardal yma yn llawer cynesach nag yw e heddiw.
 
* Pantydraco - a alwyd ar ôl chwarel leol. Mae tua'r un maint ag oedolyn o ran ei daldra, ond yn dair metr o'i sowdwl i ben ei gynffon, gyda phen fel draig a gên cryf iawn. Canfuwyd Pantydraco ym Mhant-y-ffynnon - chwarel ger [[y Bont-faen]]; o'r 'Pant' y daeth yr enw a 'drac' unwaith eto, sef y Lladin am 'ddraig'.
 
* Clevosaurus cambrica - er nad yw'n dechnegol yn ddeinosor, byddai'r anifail hwn wedi cydfyw gyda'r deinosoriaid, yn wir, yr un pryd a'r Pantydraco. Fe'i canfuwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Bryste Emily Keeble tra'n astudio ffosiliau a oedd wedi'u canfod yn y [[1950]]au ar gyfer ei chwrs ar balaeontoleg. Roedd y ffosiliau wedi eu canfod yn yr un chwarel, sef Pant-y-ffynnon, ac yn rhywogaeth newydd a berthynai'n agos i'r Clevosaurus (neu'r ''"Gloucester lizard"'').
 
* Tuatara, ymlusgiad a geir hefyd yn [[Seland Newydd]].