Gwrthdaro ethnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210222)) #IABot (v2.0.8) (GreenC bot
Llinell 1:
[[Delwedd:Evstafiev-chechnya-prayer3.jpg|bawd|Ffotograff gan Mikhail Evstafiev o [[Tsietsnia]]d yn gweddïo yn ystod Brwydr Grozny ([[Rhyfel Cyntaf Tsietsnia]]) yn 1995.]]
Gwrthdaro rhwng [[grŵp ethnig|grwpiau ethnig]] gwahanol yw '''gwrthdaro ethnig'''. Nid yw'r wahaniaeth o ran ethnigrwydd o reidrwydd wrth fôn yr anghydfod – a all fod o natur wleidyddol, cymdeithasol, economaidd, crefyddol, neu ieithyddol – ond byddai ochrau gwrthwynebol y gwrthdaro yn ymgasglu o amgylch eu grŵp berthnasol.<ref>{{Cite book|title=Ethnic Conflict and Civic Life : Hindus and Muslims in India|last=Varshney|first=Ashutosh|publisher=Yale University Press|year=2002|isbn=|location=New Haven|pages=}}</ref><ref>{{Cite book|title=Modern Hatreds: The Symbolic politics of ethnic war|url=https://archive.org/details/modernhatredssym00kauf|last=Kaufman|first=Stuart J.|publisher=Cornell University. Press|year=2001|isbn=|location=Ithaca|pages=[https://archive.org/details/modernhatredssym00kauf/page/17 17]}}</ref> Gall gymryd ffurf ymgyrch wleidyddol heddychlon, anhrefn sifil a [[terfysg|therfysgoedd]], neu [[gwrthryfel|wrthryfel]] arfog neu [[rhyfel|ryfel]]. Gall ddigwydd y tu mewn i un wlad, rhwng lluoedd un wladwriaeth a gwladwriaeth arall, neu rhwng cymunedau neu luoedd ar draws ffiniau. Mae mudiadau gwleidyddol megis [[cenedlaetholdeb]], [[iredentiaeth]], ac [[ymwahaniaeth]] yn annog grwpiau ethnig i frwydro am eu hunanbenderfyniaeth.
 
Amrywiaeth eang o agweddau ac amodau sydd yn achosi gwrthdaro ethnig. Weithiau gall grŵp gyfoethog ddymuno hunanlywodraeth oddi ar y bobloedd cyfagos, megis y [[Catalwniaid]] yn [[Sbaen]], a mewn achosion eraill mae grŵp dlawd yn ymgeisio i wella'i sefyllfa, er enghraifft y Karen ym [[Myanmar]]. Gall hunaniaeth ethnig ddatblygu i raddau eithafol, goruchafiaeth hiliol neu gred mewn mythau cenedlaethol ac eithriadoldeb, er enghraifft y syniad o [[Tynged Amlwg|Dynged Amlwg]] a gafodd ei defnyddio gan [[Americanwyr]] gwynion yn eu rhyfeloedd yn erbyn [[pobloedd brodorol Gogledd America]]. Mae cwynion hanesyddol, boed yn wir neu'n honedig, yn fynych yn peri gwrthdaro ethnig. Er enghraifft, dadleuai'r Hutu yn [[Rwanda]] taw troseddau yn eu herbyn oedd y cyfiawnhâd am [[hil-laddiad Rwanda|ladd 500,000–1,000,000]] o Tutsi yn 1994. Weithiau ymgyrch neu frwydr am [[annibyniaeth]] neu [[ymreolaeth]] yw gwrthdaro ethnig, megis [[Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon]].