Ymladd teirw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn gosod File:Bullfighting_in_Spain_by_province.png yn lle Bullsinspainf.png (gan CommonsDelinker achos: file renamed or replaced on Commons).
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 9:
Mae'r ornest ei hun yn cynnwys ''[[torero (ymladdwr teirw)|toreros]]'' proffesiynol (gyda'r torero mwyaf profiadol, sef y [[matador]]) yn lladd y tarw ei hun. Gwna hyn gan ddefnyddio ystod o symudiadau ffurfiol, sydd ag ystyron ac enwau gwahanol, yn unol ag arddull neu ysgol hyfforddiant y matador. Mae agosatrwydd yr ymladdwr teirw at yr anifail yn ei osod mewn perygl o gael ei gornio neu'i ddamsgen arno. Ar ôl i'r tarw gael ei fachu sawl gwaith tu ôl i'w ysgwydd gan y matadors eraill yn yr ymrysonfa, daw'r talwrn i ben gyda'r tarw'n cael ei ladd gydag un hyrddiad terfynol gan gleddyf. Gelwir hyn yr ''estocada''. Ym Mhortiwgal, gelwir y diweddglo y ''pega'', lle mae'r dynion (''forcados'') yn ceisio gafael yng nghyrn y tarw wrth iddo redeg tuag atynt.
 
Mae yna nifer o feysydd ymladd teirw ym [[Penrhyn Iberia|Mhenrhyn Iberia]], Ffrainc ac America Ladin. Y ganolfan fwyaf o'i math yw [[Plaza México]] yng nghanol [[Dinas Mecsico]], sy'n dal 48,000 o bobl,<ref>{{dyf gwe |url=http://www.worldstadiums.com/north_america/countries/mexico/central_mexico.shtml |teitl=www.worldstadiums.com |publisher=www.worldstadiums.com |date= |accessdate=28 Mawrth 2010}}</ref> a'r hynaf yw'r [[Plaza de toros de la Real Maestranza de Caballería de Sevilla|La Maestranza]] yn [[Seville]], Sbaen, lle cynhaliwyd yr ornest ymladd teirw cyntaf yn 1765.<ref>[{{Cite web |url=http://www.realmaestranza.com/PAGINASR/historiapt.htm |title=Plaza de Toros - Institución<!-- Bot generated title -->] |access-date=2015-08-24 |archive-date=2009-02-03 |archive-url=https://web.archive.org/web/20090203094616/http://realmaestranza.com/PAGINASR/historiapt.htm |url-status=dead }}</ref>
 
Ceir ymladd teirw nad yw'n angeuol tu hwnt i Sbaen a Ffrainc, gan gynnwys arfer y Tamil Nadu o ''[[jallikattu]]''; a'r ''[[mchezo wa ngombe]]'' Portiwgaleg (sef y gair Kiswahili am "sbort gyda tharw") a gaiff ei ymarfer ar [[Ynys Pemba]] yn [[Tansanïa]] a Zanzibar. Ceir enghreifftiau hefyd o deirw'n ymladd teirw eraill yn hytrach na phobl yn y Balcans, Twrci, Gwlff Persia, Bangladesh, Japan, Periw a Chorea. Dylanwadodd ymladd teirw Sbaenaidd ar sawl ardal o Orllewin yr [[Unol Daleithiau]] a gellir gweld hyn mewn gornestau [[rodeo]] megis [[rhaffu lloi]] a [[marchogaeth teirw]] hefyd.