452,433
golygiad
B (Manion) |
|||
==Y Cosyn Cartref==
===Dull===
Enllyn arall derbyniol fyddai cosyn cartref a byddai amryw o'r ffermydd, yn gwneud tipyn o gaws pan fyddai digonedd o laeth. Ffordd arferol i'w wneud byddai defnyddio llaeth drwyddo, hynny yw, y llaeth heb ei hufennu a llaeth sgim. Llaeth wedi codi'r hufen oddiarno, yr un faint o bob un, a'i dwymo i wres gwaed 98F. Wedyn ychwanegu ''Rennet'' iddo a'i adael i sefyll gwpl o ddyddiau hyd nes y byddai wedi ffurfio yn grawen yng ngwaelod y pot. Cael yr hyn a elwid yn 'llian caws' a'i daenu arno ac arllwys y gwlybion i lestr arall (dyma'r maidd, fyddai'n gwneud siot mor flasus yn ystod y cynhaeaf gwair, fel y llaeth enwyn o'r fuddai.) Mwyaf yn y byd a dynnid o'r gwlybion, byddai'r grawen, sef y gronynnau caws, yn ffurfio fel lwmp o does. Wedyn, byddai malwr a phigau arno, rhyw fath o beiriant oedd hwn i falu'r grawen cyn ei roi yn y cawswellt ac yna gosod gwasg denau o amgylch a llanw'r cawswellt a'r wasg yn llawn. Amcan y wasg oedd iddi suddo i mewn gyda'r caws o dan bwysau a phan gyrhaeddai'r pwysau a gwyneb y cawswellt byddai cymaint o wasgu ag a fyddai'n bosibl wedi cymryd lle. Dwy garreg las wedi eu gosod mewn ffrâm haearn fyddai yn gwasgu a'r garreg fyddai yn pwyso yn cael ei rheoli gan sgriw bwrpasol. Byddai tyllau mân yng ngwaelod y cawswellt
===Enghreifftiau o wneuthur caws===
|