782,887
golygiad
}}
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] sy'n aberu yn [[Afon Clwyd]] yw '''Afon Elwy'''. Mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]] yn bennaf.
Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref [[Llanrwst]]. Fodd bynnag dim ond o bentref [[Llangernyw]] ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn ymyl Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref [[Llanfair Talhaiarn]] ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae [[Afon Aled]], sy'n tarddu o [[Llyn Aled|Lyn Aled]] yn ymuno â hi, ac wedyn [[Afon y Meirchion]], sydd yn tarddu ar [[Moel Tywysog|Foel Tywysog]] ac yn llifo trwy [[Henllan]].
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy|Lanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.
[[Delwedd:Llanfair TH - geograph.org.uk - 23847.jpg|250px|bawd|chwith|Afon Elwy yn llifo dan bont [[Llanfair Talhaearn]].]]
[[Delwedd:Elwy Llangernyw.JPG|250px|chwith|bawd|Afon Elwy yn llifo dan yr hen bont yn Llangernyw]]
Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Elwy o ddiddordeb [[archaeoleg]]ol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r [[Palaeolithig]] a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn [[Neanderthal]] mewn [[Ogof Pontnewydd|ogof ym Mhont-newydd]].
[[Delwedd:Elwy01LB.jpg|chwith|bawd|250px|Yr afon yn ymyl ogofau Cefn]]
==Gweler hefyd==
|