Llên Natur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen cwmni/Wicidata | fetchwikidata=ALL | image = Llen-Natur-1-transparent.png}}
[[Delwedd:Duncan yn Hacio'r Iaith.jpg|dde|bawd|350px|chwith|[[Duncan Brown]], golygydd Llên Natur yn dangos rhai o nodweddion y wefan yn ystod [[Hacio'r Iaith]] 2010.]] Un o brosiectau [[Cymdeithas Edward Llwyd]] yw '''Llên Natur [https://www.llennatur.cymru]'''. Mae'n [[wefan]] [[Cymraeg|Gymraeg]] sy'n ymwneud â phopeth [[amgylchedd]]ol, yng Nghymru a thramor, ddoe, heddiw ac yfory. Cymraeg yw iaith y prosiect, a'r wefan, ond ceir cyfraniadau mewn ieithoedd eraill gan gynnwys y [[Ffrangeg]].<ref>{{Cite web |url=http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ |title=Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 05/12/2012. |access-date=2012-12-05 |archive-date=2004-06-10 |archive-url=https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ |url-status=dead }}</ref> Ymhlith yr adnoddau sydd ar gael ar y wefan mae:
* Y Bwletin a'i holl ôl-rifynnau'r Bwletin a chyhoeddiadau eraill [https://www.llennatur.cymru/cyhoeddiadau]
* Y Tywyddiadur, sef cronoleg o 112,000 o gofnodion dyddiedig am y tywydd a chysylltiedig bethau
* Y Bywiadur (geiriadur Enwau a Thermau rhywogaethau a chymunedau llysieuol)
Llinell 10:
a thu hwnt i'r wefan
* Grwp Facebook Cymuned Llên Natur
* dolenni yn cysylltu â thudalennau Wicipedia (o'r Bywiadur [https://www.llennatur.cymru/Y-Bywiadur#tegeirian] a thrwy ddadansoddi a chrynhoi gwybodaeth arall [https://cy.wikipedia.org/wiki/Ffwlbart])
* presenoldeb ers Rhagfyr 2020 fel sianel ar blatfform cyfryngau creadigol AM [https://www.amam.cymru/llennatur/4216]
 
Trosglwyddwyd y prif gyfrifoldeb am gasglu a rhannu gwybodaeth am Enwau Lleoedd i [[Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru|Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru]] yn dilyn cynhadledd a gynhalwyd gan Brosiect Llên Natur yn 2008 yn benodol i sefydlu cymdeithas o'r fath oherwydd amlygrwydd y bwlch.
 
Ymhellach i'r uchod mae'r prosiect yn defnyddio fwyfwy y platfformau cyhoeddus i rannu, casglu a chadw gwybodaeth, gan gynnwys Grwp [[Facebook]] Cymuned Llên Natur, Wicipedia, a chwnmnïau cofnodi bywyd gwyllt Cymru megis Cofnod' - Y Ganolfan Gofnodion Amgylcheddol Leol ar gyfer Gogledd Cymru [https://www.cofnod.org.uk/(X(1)S(qafceqvqtqaso5lgmtkfvflm))/Home].
 
==Bwletin misol ar-lein==
Pwrpas y Bwletin [https://www.llennatur.cymru/Cyhoeddiadau] yn wreiddiol oedd cyflwyno tystiolaeth amgylcheddol unigol a phersonol yn seiliedig ar brofiadau pobl unigol yn eu broydd yn yr un modd ag elfennau eraill o Brosiect Llên Natur. Ond wrth i'r Prosiect ddatblygu ar wahanol blatfformydd mae'r Bwletin ar-lein bellach yn anelu at gyflwyno gwybodaeth thematig mwy cynhwysfawr ac yn y modd yna, ychwanegu gwerth i'r wybodaeth greiddiol. Mae'r cyfraniadau thematig hyn yn rhychwantu gwybodaeth am [[natur|fywyd gwyllt]], [[llên gwerin]], dywediadau, [[enwau lleoedd]] a materion sy'n cysylltu'r unigolyn â'i amgylchedd ehangach.
 
==Y Tywyddiadur==
Cronfa o wybodaeth yw'r Tywyddiadur [https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur] wedi ei seilio ar dystiolaeth amgylcheddol dyddiedig, lleoliedig a chyda ffynhonnell yn perthyn i bob eitem. Mae'n cael ei phorthi gan wirfoddolwyr wrth i wybodaeth ddod i'r fei mewn llyfrgelloedd, archifdai, papurau newydd, cyfryngau cymdeithasol ac ati. Gall y dystiolaeth gynnwys sylwadau uniongyrchol mewn 'amser go iawn', dyddiaduron, cofnodion ysgol [https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=log-ysgol&bwletinau=True&dyddiadur=falseFalse&oriel=True&recordsperpage=25&currentpage=1#angori] neu lythyrau [https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=llythyr&currentpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=true&bwletinau=true#angori].</br>
 
Mae galluoedd chwilio'r 115,000 cofnod yn y Tywyddiadur yn caniatáu dadansoddi pob math o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r tywydd a chyffelyb bynciau yn ddiweddar a thros ganrifoedd yng nghefn gwlad Cymru a thu hwnt. Mae'r adran hon yn rhyngweithiol gyda chyfle i'r defnyddiwr (y gwirfoddolwyr uchod gan fwyaf) uwchlwytho neu lawrlwytho. [[Dyddiadur]]on personol na welodd olau dydd ynghynt yw llawer o'r cofnodion, ac mae [[bywgraffiad]]au nifer o'u hawduron hefyd ar gael ar y wefan.<ref>[http://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur llennatur.cymru;] adalwyd 26 Awst 2017.</ref>
Llinell 28:
 
==Cronfa o ddyddiaduron personol==
Gellir cyrchu hon trwy'r Tywyddiadur i ganfod cofnodion unigol (ee. [[Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd|Edward Edwards]], Faenol Isaf, Tywyn) neu drwy Wicipedia i gael trosolwg o'r rhan hon o'r gwaith [https://cy.wikipedia.org/wiki/Dyddiaduron_amgylcheddol_Cymreig?wprov=sfti1] a mwy o wybodaeth bywgraffiadol am y dyddiadurwyr eu hunain (ee. Bywyd a gwaith Edward Edwards [https://cy.wikipedia.org/wiki/Dyddiadur_Edward_Edwards,_Tywyn,_Meirionnydd?wprov=sfti1]).</br />
Cynigir yn y trosolwg y syniad bod y dyddiadur angylcheddol cyffredin yn ''genre'' llenyddol sydd wedi ei hen esgeuluso. Mae Llên Natur yn ceisio rhoi llais i'r di-lais, a chanfod gwerth holl-fyd a holl berthnasol i'r hyn sy'n ymddangos yn blwyfol ac o'r foment yn unig.
 
==Y Bywiadur==
Geiriadur enwau a thermau yw'r Bywiadur. Mae'n gyfrwng ar gyfer cyhoeddi termau Cymraeg am wahanol [[rhywogaethau|rywogaethau]];<ref>[http://www.llennatur.cymru/Bywiadur]; adalwyd 06/12/2012</ref> a chynefinoedd ac mae [[Rhestr gwyfynod a glöynnod byw|rhestr Wicipedia o wyfynod a gloÿnnod byw]] er enghraifft wedi'i seilio ar y termau hyn. Oherwydd y broses drylwyr o gydweithio rhwng arbenigwyr iaith ac arbenigwyr pwnc ar Banel Enwau a Thermau Prosiect Llên Natur, caiff yr enwau, bellach, eu cyfrif yn rhai safonol.</br />
Sefydlwyd yr adran hon o'r wefan trwy gydweithio â'r adran adnoddau ieithyddol, [[Prifysgol Bangor]]. Fe gyhoeddwyd y rhestrau yn gyntaf mewn tair cyfrol yn "Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion" ac fe barheir i wneud hynny fel y mae'r gwaith o lunio ychwaneg o restrau yn mynd rhagddo. Rhestr ddigidol greiddiol y Bywiadur yw Porth Termau Adran Adnoddau Ieithyddol [https://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr/termau.php.cy] [[Prifysgol Bangor]] a fe ellir defnyddio'r naill neu'r llall yn ôl cyfleustra.
 
==Yr Oriel luniau==
Yr hyn sydd yn gwneud yr Oriel [https://www.llennatur.cymru/Yr-Oriel] yn wahanol i lawer o gasgliadau eraill o luniau yw'r capsiynau y mae'r cyfrannwyr yn eu hychwanegu. Gall y capsiwn gynnwys dyddiad a lleoliad y tynnwyd y llun aca hefyd esboniad o beth yw arwyddocad y llun. Cronfa o gofnodion dadlennol ydyw, yn hytrach na chasgliad o luniau hardd yn unig. Gellir chwilio ar sail gair yn y capsiwn neu ar sail categori. Cafodd yr Oriel ei ddisodli braidd yn ddiweddar gan rym grwp Cymuned Llên Natur ond mae ei 9 mil o luniau a chapsiynau yn parhau i fod yn gronfa werthfawr wrth gefn.
 
==Recordiadau Llais==
Cronfa o sgyrsiau byrion "hanes llafar" sydd yn yr adran Llais [https://www.llennatur.cymru/Llais]. Mae'n gofnod sain o atgofion unigolion (nifer wedi marw bellach) yn eu cynefin, am eu bywyd ac am yr oes a fu, yn ôl eu profiad personol. Mae'r cyfraniadau yn ymdrin â rhyw agwedd ar fyd natur neu'r amgylchedd o fewn profiad personol y sawl sydd yn cael ei gyfweld/chyfweld. Ceir llun y person ac ychydig nodiadau am ei fywyd/bywyd, ac mae pob sgwrs yn ymdrin â rhyw hanesyn penodol. Cewch weld ar y map yr ardal y mae'r person yn ymdrin â hi (neu, mewn ambell achos, pan fydd yr ardal dan sylw ymhell i ffwrdd, cartref genedigol y person sydd yn rhoi'r cyfweliad). Mae'r recordiadau sain yn gyfres o sgyrsiau
 
==Y Llyfrgell==
Llinell 64:
 
==Cymuned Llên Natur==
Grwp Facebook yw Cymuned Llên Natur [https://www.facebook.com/groups/CymunedLlenNatur]. Mae'n derbyn mae'n debyg 80% o'r traffig sy'n cyrraedd Prosiect Llên Natur ar y ffurf mwyaf 'amrwd' sy'n nodweddiadol o'r cyfryngau cymdeithasol. O'i brosesu mae'n porthi holl adrannau eraill y cyfrwng ac yn ei dro yn derbyn gwybodaeth ohonynt wedi ei brosesu i gyfoethogi'r sylwadau sy'n cyrraedd o ddydd i ddydd. Mae 3,600 aelod o'r Grwp (Rhagfyr 2020).
==Cwmni Pendraw==
Sefydlwyd cwmni theatrig o'r enw Cwmni Pendraw [https://cwmnipendraw.com/ ] gyda chysylltiad llac â Phrosiect Llên Natur. Pwrpas y cwmni yw cyflwyno negeseuon amgylcheddol mewn ffordd ddramatig.
 
==Llygaid Bach Llên Natur==
Yn 2020 sefydlwyd Grwp FB i blant (o bob oed!) a theuluoedd. Fe'i modelwyd ar yr hen lyfrau I-Spy. Cyhoeddir posteri "adnabod" sy'n cynnwys sain adar. Fe'u gwelir fel Posteri ar dudalennau cyhoeddiadau gwefan Llên Natur [https://www.llennatur.cymru/Cyhoeddiadau]. Anogir plant i adnabod y rhywogaethau yn y posteri, neu i'w gweld yn y maes. Cânt eu gwobrwyo am adnabod yn gywir gyda phwyntiau. Mae bathodyn deniadol i'w cael o ennill digon o bwyntiau.
 
==app AM==
Hwn yw'r platfform diweddaraf i Llên Natur gael presenoldeb arno. Mae'n gweithio o ap. o'r un enw [https://www.amam.cymru] ac mae Llên Natur yn ymddangos ar eu hadran Geiriau (un o bedair adran ar yr ap.) neu drwy chwiliad. Ar hyn o bryd 'ffenestr siop' ydyw i gyhoeddiadau Llên Natur ond rydym yn gwyntyllu posibiliadau eraill.
 
==Cysylltu ar-lein==
Llinell 86:
* [[Cymdeithas Edward Llwyd]]
 
[[Categori:Gwefannau Cymraeg]]
[[Categori:Natur]]
[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Tywydd]]
[[Categori:Dyddiaduron]]