Niwl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Mathau o niwl: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 8:
 
*”Mwg Sipsiwn”
Ymadrodd o rai mannau yng Nghymru yw hwn i ddisgrifio’r carpiau o niwl uwchben ardaloedd di-dor o goed dan amodau arbennig (sy’n ysgogi dychmygu gwersyll o sipsiwn yn y coed). Math o gwmwl ''stratus'' yw hyn. Ar ôl sbelen o law mae’r gwynt yn aml yn disgyn; mae’r aer uwchben y coed yn llaith (wedi ei fwyhau gan drydarthiad y coed). Mae’r aer union uwchben yr ardal coed yn dueddol o fod yn fwy claear na’r mannau mwy agored oherwydd effaith cysgodol y coed, sydd yn ei dro yn cyddwyso’r gwlybaniaeth ac yn ysgogi’r glaw i ffurfio carpiau o niwl. Pan dderfydd y glaw mae’r niwl yn dueddol o godi fymryn dan ddylanwad cerryntoedd aer dyrchafol (megis y ffordd y mae niwl mwy trwchus yn ymffurfio’n haenen o gwmwl isel ychydig uwchben y ddaear). O’r diwedd, wrth i’r gwynt godi, mae’r awyr yn cynhesu a’r haul yn gwneud ei waith, mae’r carpiau niwl yn ymwasgaru<ref>Cyfieithad o esboniad y meteorolegydd Huw Holland Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40 [https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn40.pdf]</ref>
 
== Cyfeiriadau ==