Firws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Triniaeth: Ychwanegu Italig i deitl yr erthygl using AWB
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: i fewn → i mewn using AWB
Llinell 17:
Mae sut y maent wedi tarddu (o ran hanes esblygiad bywyd) yn niwlog. Ceir dau bosibilrwydd: yn gyntaf, gallant fod wedi esblygu allan o blasmidau (darnau bychain o DNA) a all symud o un gell i'r llall. Yr ail bosibilrwydd yw iddynt esblygu allan o facteria. Credir hefyd eu bont yn ddull pwysig o drawsffurfio genynol llorweddol - sy'n beth da o ran bioamrywiaeth.<ref name = "Canchaya">{{vcite journal|author=Canchaya C, Fournous G, Chibani-Chennoufi S, Dillmann ML, Brüssow H|title=''Phage as agents of lateral gene transfer|journal=Curr. Opin. Microbiol. ''|volume=6 |issue=4 |pages=417–24 |year=2003 |pmid=12941415|doi=10.1016/S1369-5274(03)00086-9}}</ref>
 
Mae'r firws yn lledaenu mewn sawl ffordd; mae [[pryf]]aid fel yr [[affid]] yn eu trosglwyddo o blanhigyn i blanhigyn; pryfaid sy'n sugno gwaed (fectorau) sydd hefyd yn gyfrifol am eu trosglwyddo o anifail i anifail a thrwy'r awyr e.e. mae'r firws ffliw yn cael ei drosglwyddo drwy beswch neu disian. Mae'r [[norofirws]] a'r [[rotofirws]] yn ymledu drwy gyffyrddiad: o [[ymgarthion]] i'r [[Ceg ddynol|ceg]] o berson i berson. Gallant fynd i fewnmewn i'r corff mewn dŵr neu fwyd. Dull arall o ymledu ydy drwy gyffyrddiad rhywiol fel y gwna'r firws [[HIV]].
 
Mae gan firysau gyfnodau 'cwsg' hefyd ble gallant gyfuno â [[DNA]] niwclear, gan ailymddangos fel ffurf ffyrnig yn ddiweddarach, yn aml pan fydd ymwrthedd yr organeb yn isel. Dyma pam, er enghraifft, os ydych wedi cael brech yr ieir, gallwch gael yr eryr yn ddiweddarach - mae firws brech yr ieir wedi ymgyfuno â'ch DNA ar ffurf cwsg gan ailymddangos fel yr eryr pan fod eich ymwrthedd yn isel.<ref>{{Cite web|url=http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs?subId=16|title=Iechyd a GofalCymdeithasol|date=2011|accessdate=2017|website=CBAC|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>