Modrwy (mathemateg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 1:
Mewn [[mathemateg]], mae '''modrwy''' yn un o'r strwythurau [[algebra]]idd sylfaenol a ddefnyddir mewn [[algebra haniaethol]]. Mae'n cynnwys set sydd â dau weithred deuaidd sy'n cyffredinoli gweithrediadau rhifyddol [[adio]] a [[lluosi]]. Trwy'r cyffredinoli hwn, mae theoremau rhifyddeg yn cael eu hymestyn i wrthrychau nad ydynt yn rhifiadol megis [[polynomial]]au, cyfresi, matricsau a [[ffwythiant|ffwythiannau]].
 
Mae'r fodrwy yn perthyn i "grŵp Abelaidd", gydag ail gweithrediad deuol, cysylltiol - a dosbarthol dros y weithrediadau'r grŵp Abelaidd. Mae gan y fodrwy, fel arfer, elfen unfathiant (''identity element''), ond nid gan bob awdur. Drwy estyniad o'r [[cyfanrif]]au, gelwir y gweithrediadau grŵp Abelaidd yn "adio" ac enw'r ail weithrediad deuaidd yn "lluosi".
 
Datblygwyd y cysyniad o fodrwy rhwng y [[1870au]] a'r [[1920au]]. Mae'r cyfranwyr allweddol yn cynnwys [[Richard Dedekind|Dedekind]], [[David Hilbert|Hilbert]], Fraenkel, ac [[Emmy Noether]]. Ffurfiolwyd y cysyniad yn gyntaf o fewn [[damcaniaeth rhifau]], a modrwyau polynomial o fewn [[geometreg algebraidd]] a [[damcaniaeth sefydlynnau]] (''invariant theory''). Wedi hynny, bu'r cysyniad yn ddefnyddiol mewn canghennau eraill o [[mathemateg|fathemateg]], megis [[geometreg]] a [[dadansoddiad mathemategol]].