Newidyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 1:
Mewn [[mathemateg]] elfennol, mae '''newidyn''' yn symbol, (llythyren yr [[wyddor]], fel arfer) sy'n cynrychioli rhif o'r enw 'gwerth y newidyn', sydd yn rhif mympwyol (''arbitrary'') heb ei bennu'n llawn, neu'n anhysbys. Mae cyfrifo algebraidd gyda newidynnau fel pe baent yn rhifau penodol yn caniatáu i ni ddatrys ystod o broblemau mewn un cyfrifiad. Enghraifft nodweddiadol yw'r [[fformiwla cwadratig]], sy'n caniatáu i ni ddatrys pob hafaliad cwadratig trwy amnewid dim ond gwerthoedd rhifol cyfernodau'r hafaliad a roddir i'r newidynnau sy'n eu cynrychioli. Y term cyferbyniol iddo yw [[cysonyn]].
 
Mae'r cysyniad o newidyn hefyd yn hanfodol mewn [[calcwlws]]. Er enghraifft, mae'r [[ffwythiant]] {{math|1=''y'' = ''f''(''x'')}} yn cynnwys dau newidyn, {{math|''y''}} a {{math|''x''}}, sy'n cynrychioli gwerth ac ymresymiad y ffwythiant yn y drefn honno.
 
Mewn mathemateg pellach, mae newidyn yn symbol sy'n dynodi gwrthrych mathemategol, a all fod yn nifer, yn fector, yn fatrics, neu hyd yn oed yn ffwythiant. Yn yr achos hwn, ni chedwir yr elfen wreiddiol o "newid" yn y newidyn - ac eithrio, weithiau, pan geir esboniadau anffurfiol. Ac felly hefyd mewn [[cyfrifiadureg]], lle mae newidyn yn enw (llythyren o'r wyddor, neu air, fel arfer) sy'n cynrychioli rhywfaint o werth a a gedwir o fewn cof y [[cyfrifiadur]]. Mewn [[rhesymeg|rhesymeg fathemategol]], mae newidyn naill ai'n symbol sy'n cynrychioli term anhysbys o'r theori, neu'n rhan sylfaenol o'r theori.