Tomistiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 1:
[[Diwinyddiaeth]] ac [[athroniaeth]] [[Cristnogaeth|Gristnogol]] sy'n seiliedig ar waith Sant [[Tomos o Acwin]] (1225–1274) yw '''Tomistiaeth'''.<ref>{{dyf GPC |gair=Tomistiaeth |dyddiadcyrchiad=30 Rhagfyr 2016 }}</ref> Ymdrechodd Tomos i gyfuno athroniaeth [[Aristotlys]] gyda diwinyddiaeth [[yr Eglwys Gatholig]]. Gan ddefnyddio'r cysyniadau Aristotelaidd am fater a ffurf, lluniodd hierarchaeth sy'n gosod yr [[ysbryd]] uwch mater, yr [[enaid]] uwch y corff, a diwinyddiaeth uwch athroniaeth.
 
Wedi ei farwolaeth, cafodd ysgrifau Tomos eu hastudio gan ysgolheigion ar draws Ewrop gan feithrin dealltwriaeth sylfaenol o'i feddwl. Yn [[yr Oesoedd Canol]] Tomistiaeth oedd un o'r prif athrawiaethau [[ysgolaeth|ysgolaidd]]. Sefydlogodd fframwaith y system Domistaidd yn yr 16g, cyfnod yr Ail Domistiaeth a ddaeth yn sail i addysg Babyddol. Datblygodd drydedd ffurf ar Domistiaeth yn ail hanner y 19g, adeg [[Cyngor Cyntaf y Fatican]], ac yn rhan o'r neo-ysgolaeth oedd yn adwaith i seciwlaraeth a modernedd. Cyhoeddodd y [[Pab Leo XIII]] gylchlythyr ''Aeterni Patris'' ym 1879 yn galw am adfer dysgeidiaeth Domistaidd mewn ysgolion Pabyddol. Ers y 1960au bu'r Tomistiaid yn ceisio ymateb i effaith [[Ail Gyngor y Fatican]] ar y byd Catholig, aca hefyd yn pwysleisio testunau gwreiddiol Tomos. Trwy gydol ei hanes, câi Tomistiaeth ei harddel gan amryw o feddylwyr, llenorion, arweinwyr crefyddol, urddau eglwysig, ac ysgolion.
 
== Cyfeiriadau ==