Cwli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Y fasnach gwli: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 12:
Daeth nifer o gwlis, yn enwedig o Ddwyrain Asia, i [[Awstralia]] a [[Califfornia|Chaliffornia]] yn ail hanner y 19g. Roeddynt yn bwysig wrth adeiladu'r rheilffyrdd yng Ngorllewin [[Canada]] a Gorllewin [[yr Unol Daleithiau]].Rhoddir yr enw cwli yn aml ar weithwyr o Tsieina, [[Japan]], ac [[is-gyfandir India]] a ymfudodd i Awstralia a Chaliffornia fel rhan o'r rhuthradau am [[aur]] yng nghanol y 19g. Yn gywir, mewnfudwyr rhydd oeddynt ac nid llafurwyr dan gytundeb neu weithwyr ymrwymedig, er iddynt gael eu camdrin yn aml gan yr Ewropeaid a'r Americanwyr megis y cwlis.<ref name=EB/>
 
Erbyn diwedd y 19g, roedd llai o angen ar gwlis o ganlyniad i gyfraddau cynyddol o [[mewnfudo|fewnfudo]] rhydd, yn enwedig i'r [[Yr Amerig|Amerig]] ac i [[Oceania]]. Bu nifer o weithwyr croenwyn yn anfodlon cydweithio a chystadlu â'r cwlis a mewnfudwyr eraill, a'r awdurdodau yn dymuno lleihau'r boblogaeth Asiaidd am resymau cymdeithasol neu hiliol. Pasiwyd Deddf Gwahardd Tsieineaid (1888) yn yr Unol Daleithiau a Deddf Gwaharddiad Mewnfudo (1901) yn Awstralia, a rhoddwyd [[treth y pen]] o $500 ar gwlis yng Nghanada yn 1904. Parhaodd y fasnach yn nechrau'r 20g, gyda chyfyngiadau ar yr hen arferion. Cafodd 50,000 o Tsieineaid eu recriwtio yn 1904 gan y Prydeinwyr i weithio yn y cloddiau aur yn y [[Transvaal]]. Daeth y fasnach i ben yn is-gyfandir India yn 1922.<ref name=Columbia>{{eicon en}} "[https://www.encyclopedia.com/reference/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/coolie-labor Coolie labour]", ''The Columbia Encyclopedia'', 6ed argraffiad (Gwasg Prifysgol Columbia). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 6 Chwefror 2019.</ref>
 
== Defnydd cyfoes o'r enw ==