Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwrthwynebydd cydwybodol"

Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
(Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB)
 
 
== Y Rhyfel Byd Cyntaf ==
Yn ystod y flwyddyn gyntaf yn dilyn pasio'r Ddeddf Gonsgripsiwn ym Mhrydain, a basiwyd yn 1916, ymrestrodd 1.1 miliwn, ac erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y nifer wedi codi i 2.5 miliwn.
 
Doedd llawer o bobl ddim yn hoffi consgripsiwn ac ym mis Ebrill 1916 [[Protest|protestioddprotest]]iodd dros 200,000 o bobl yn [[Sgwâr Trafalgar]]. Gwrthododd tua 16,000 o ddynion ymladd ar sail foesol a chrefyddol ac roedd 900 o’r rhain yn [[Cymru|Gymry]]. Roedden nhw’n cael eu galw yn wrthwynebwyr cydwybodol (‘conshis’) er bod 7,000 o heddychwyr wedi cytuno i wneud gwasanaeth nad oedd yn cynnwys ymladd, yn aml fel cludwyr stretsieri ar flaen y gad.
 
O 1914 ymlaen roedd aelodau’r Gymdeithas Dim Gorfodaeth Filwrol (''No-Conscription Fellowship – NCF'') yn gwrthwynebu’r ymgyrch gorfodaeth filwrol oherwydd roeddent yn credu bod pob bywyd dynol yn sanctaidd. Ni lwyddasant i wneud hynny, ond fe wnaethon nhw hefyd ymgyrchu dros ddeddf yn caniatáu i bobl ddewis peidio ag ymuno â’r fyddin ar sail cydwybod. Y tro hwn roeddent yn llwyddiannus. Fe’i gelwid yn ‘gymal cydwybod’.
Os oedd y tribiwnlys yn eich credu, cynigwyd cyfle i chi wneud rhywbeth arall dros eich gwlad nad oedd yn cynnwys lladd, megis ymuno ag uned feddygol y fyddin, neu Uned [[Ambiwlans]] y Cyfeillion (Friends Ambulance Unit). Fel arall gellid gofyn i chi weithio ar y tir i gynhyrchu bwyd: gelwid dynion a wnaeth hynny yn ‘alternativists’. Cynigwyd swyddi yn y fyddin i wrthwynebwyr eraill, nad oedd yn golygu hyfforddiant milwrol neu gario arfau. Byddent yn cyflawni dyletswyddau megis darparu cyflenwadau i’r fyddin neu gynnal ffyrdd a [[Rheilffordd|rheilffyrdd]]. Derbyniodd y rhan fwyaf o wrthwynebwyr un o’r dewisiadau hyn.
 
Fodd bynnag, i rai gwrthwynebwyr roedd hyd yn oed y syniad o wneud rhywbeth fel [[ffermio]] yn ffordd anuniongyrchol o gadw’r rhyfel i fynd. Gelwid nhw yn ‘absolutists’. Roedd gan y tribiwnlysoedd y grym i roi rhyddhad diamod iddynt, ond yn anaml iawn y digwyddai hynny. Yn aml cafodd eu ceisiadau eu gwrthod yn gyfan gwbl, a golygai hyn y medrent gael eu galw i’r fyddin. Pe byddent wedyn yn gwrthod, caent eu trosglwyddo i’r fyddin fodd bynnag, a phe byddent yn anufuddhau i orchmynion caent eu dedfrydu gan lys marsial a’u hanfon i’r carchar. Roedd y carchar yn aml yn golygu llafur caled, carchariad unig, a chamdriniaeth gorfforol a [[Seicoleg|seicolegolseicoleg]]ol. Tybir bod oddeutu 81 o wrthwynebwyr wedi marw o ganlyniad i’r driniaeth a gawsant yn y fyddin, mewn carchardai neu mewn ‘canolfannau gwaith’. Fe wnaeth teuluoedd gwrthwynebwyr a garcharwyd ddioddef hefyd. Ni dderbyniasant unrhyw gefnogaeth ariannol, ac yn aml trodd ffrindiau a chymdogion eu cefnau arnynt (e.e. gan roi pluen wen iddynt, yn symbol o lwfrdra).
 
Carcharwyd tua 6,000 o wrthwynebwyr ym Mhrydain. Arweiniodd carchariad cynifer o ddynion at sylw yn y Wasg ac yn y Senedd, ac yn 1916 cyflwynwyd dewis arall a oedd yn caniatáu i wrthwynebwyr fyw mewn gwersyll gwaith a gwisgo eu dillad eu hun. Roedd canolfannau gwaith o'r fath yn bodoli ger [[Aberdeen]] yn yr Alban, ac yn [[Dartmoor]].
449,732

golygiad