Siart cylch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 22:
| color5 =purple
}}
Mae '''siart cylch''' yn ddiagram [[ystadegaeth|ystadegol]] sydd wedi'i rhannu'n dafelli i ddangos cyfran rifiadol. Mewn [[siart]] cylch, mae hyd, arwynebedd ac ongl arc pob tafell, yn gyfraneddol (''proportional'') i'r swm y mae'n ei gynrychioli. Ceir cryn amrywiadau ar y modd y gellir cyflwyno'r math hwn o [[siart]].
 
Defnyddir y siart cylch drwy'r byd ar hysbysebion a thrwy'r cyfryngau gweledol.<ref name="Wilkinson">Wilkinson, p. 23.</ref> Gan ei bod yn anodd cymharu rhai o'r tafelli o fewn y [[siart]], mae llawer o [[mathemateg|fathemategwyr]] yn argymell peidio a defnyddio'r math hwn o siart.<ref name="tufte">Tufte, t. 178.</ref><ref name="vanbelle">van Belle, p. 160–162.</ref><ref name="sfew">Stephen Few. [http://www.perceptualedge.com/articles/08-21-07.pdf "Save the Pies for Dessert"], Awst 2007, Adalwyd 2010-02-02</ref><ref name="fenton">Steve Fenton [http://www.stevefenton.co.uk/Content/Pie-Charts-Are-Bad/ "Pie Charts Are Bad"]</ref>. Dywedant ei bod yn llawer haws cymharu data pan gaiff ei arddangos mewn [[siartiau llinell]], [[siartiau bar]] a siartiau eraill.
 
==Hanes==
Credir mai'r [[Albanwr]] Breviary Ystadegol William Playfair a luniodd y siart cylch cynharaf y gwyddys amdani a hynny mewn llyfr o'r enw ''Statistical Breviary'' yn 1801.<ref name="Tufte, t. 44">Tufte, t. 44</ref><Refref name = "Spence2005"> Spence (2005)</ref><ref>[http://www.datavis.ca/milestones/index.php?group=1800%2B&mid=ms89 Cerrig Milltir yn Hanes Cartograffeg Thematig, Graffeg Ystadegol, a Delweddu Data] </ref>
[[Delwedd:Playfair-piechart.jpg|bawd|chwith|Un o siartiau cylch William Playfair, a gyhoeddodd yn ei lyfr ''Statistical Breviary'' (1801).]]