Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Maredudd ab Owain"

Lleihawyd o 1 beit ,  blwyddyn yn ôl
→‎Bywgraffiad: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: cymeryd → cymryd using AWB
(→‎Bywgraffiad: Ardddull a manion sillafu, replaced: Yr oedd → Roedd (2) using AWB)
(→‎Bywgraffiad: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: cymeryd → cymryd using AWB)
Roedd Maredudd yn fab i [[Owain ap Hywel|Owain ap Hywel Dda]], brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredudd ei le, ac yn [[986]] llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo [[Cadwallon ab Ieuaf]]. Roedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, [[Hywel Dda]] ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn [[988]] daeth Maredudd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]] yn rhan o'i deyrnas.<ref name="John Edward Lloyd 1911"/>
 
Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr [[Mercia]] ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymerydcymryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r [[Llychlynwyr]]. Roedd ymosodiadau y [[Daniaid]] yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredudd. Yn [[987]] ymosododd y Daniad [[Godfrey Haroldson]] ar [[Ynys Môn]] gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.<ref name="John Edward Lloyd 1911"/>
 
Bu Maredudd farw yn [[999]] ac mae'n cael ei ddisgrifio ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] fel "brenin mwyaf clodfawr y Brutaniaid".<ref>Thomas Jones (gol.), ''Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20.'' (Caerdydd, 1941), tud. 13a.</ref> Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach [[Idwal Foel]] gan [[Cynan ap Hywel]].<ref name="John Edward Lloyd 1911"/>
452,433

golygiad