Ilud ach Brychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen WD
→‎Llanilltud Fawr: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: Mae nhw → Maen nhw using AWB
 
Llinell 10:
 
=== Llanilltud Fawr ===
Treuliodd Ilud amser yn [[Llanilltud Fawr]]. Dwedir mynaich yr [[Oesoedd Canol]] fod y [[llan]] a dyfodd i fod y clas enwocaf [[Oes y Seintiau]] wedi sefydlu gan [[Illtud]]. MaeMaen nhw yn niwlog iawn am rhieni [[Illtud]] (wrth cymharu â'r manylion a rhoddir am saint enwog eraill) Dywed rhai fod [[Illtud]] wedi geni ym [[Brycheiniog|Mrycheiniog]] tua'r 450 yn blentyn i dad o [[Llydaw|Lydaw]] a sefydlodd [[Llanilltud]] <ref name=":0" /> rhwng 470-480 gyda cymorth [[Garmon]] (bu farw 480) Mae eraill yn dweud fod [[Illtud]] yn ddisgybl i [[Peulin]] (ganwyd tua 480) a pan oedd yn ifanc aeth i gwasanaethu [[Arthur]] fel milwr cyn troi at fywyd crefyddol, sy'n awgrymu ei fod wedi geni ar ddiwedd y 5g. Mae hefyd dau ddyddiad ar gyfer marwolaeth [[Illtud]] 537 a 545 a dau le a cofnodir fel man ei farwolaeth, [[Aberhonddu]] a [[Llydaw]].<ref name=":1" /> Mae'n debyg fod hanes [[Illtud]] yn cymysgiad o hanesion am o leiaf dau berson. Buasai'r hynaf wedi cyfoesi a merched [[Brychan]] ar ieuengaf, efallai, yn fab neu 'fab yn y ffydd' i'r hynaf. Bu gan [[Illtud]], fel Ilud, cysylltiadau agos â [[Aberhonddu]]. Gelwir cromlech ger y dref a defnyddiwyd ganddo am gyfnodau fel meudwy yn Tŷ Illtud a cysegrwyd eglwys Libanus iddo.
 
Ni buasai mynaich yr [[Oesoedd Canol]] wedi medru meddwl fod clas mor pwysig â [[Llanilltud Fawr]] wedi sefydlu gan ddynes. Hyd yn oedd heddiw buasai'n anodd i rhai ystyried gall yr [[Illtud]] hynaf bod yn ddynes.