Barnwriaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 18:
==Diffiniad==
[[File:Supreme Court of Estonia.JPG|thumb|300px|de|Goruchaf Lys Estonia]]
Y farnwriaeth yw'r system llysoedd sy'n dehongli ac yn cymhwyso'r gyfraith yn enw'r wladwriaeth. Gellir meddwl am y farnwriaeth hefyd fel y mecanwaith ar gyfer datrys anghydfodau. O dan yr athrawiaeth gwahanu pwerau, yn gyffredinol nid yw'r farnwriaeth yn gwneud cyfraith statudol (sy'n gyfrifoldeb y d[[deddfwrfa]]) nac yn gorfodi cyfraith (sy'n gyfrifoldeb y [[Gweithrediaeth|Gweithrediaeth]]), ond yn hytrach mae'n dehongli'r gyfraith ac yn ei chymhwyso i ffeithiau pob achos. Fodd bynnag, mewn rhai gwledydd mae'r farnwriaeth yn gwneud cyfraith gwlad.
 
Mewn sawl awdurdodaeth mae gan y gangen farnwrol y pŵer i newid deddfau trwy'r broses adolygiad barnwrol. Gall llysoedd sydd â phŵer adolygiad barnwrol ddirymu deddfau a rheolau'r wladwriaeth pan fydd yn eu cael yn anghydnaws â norm uwch, fel deddfwriaeth sylfaenol, darpariaethau'r cyfansoddiad, cytuniadau neu gyfraith ryngwladol. Mae barnwyr yn rym hanfodol ar gyfer dehongli a gweithredu cyfansoddiad, ac felly mewn gwledydd cyfraith gwlad sy'n creu'r corff o gyfraith gyfansoddiadol.
Llinell 56:
==Cymru==
[[File:The Commission on Justice in Wales Logo.png|thumb|300px|de|Logo'r Comisiwn]]
Ceir galwadau ar gyfer creu barnwriaeth Gymreig ar wahân i Loegr. Galwodd [[Elfyn Llwyd]], cyn [[Aelod Seneddol]] [[Plaid Cymru]] a alwodd am ddatganoli [[cyfiawnder troseddol]] i Gymru yn 2014.<ref>weithrediaeth</ref> ac am farnwriaeth annibynnol i Gymru yn 2014, lle nododd mai Cymru oedd yr Cymru ar hyn o bryd yw'r unig wlad yn y byd sydd â [[deddfwrfa]] ei hun, ond nid oes ganddi awdurdodaeth gyfreithiol ei hun.<ref>https://www.iwa.wales/agenda/2014/03/elfyn-llwyd-and-a-legal-jurisdiction/?lang=cy</ref>
 
Yn 2017 sefydlwyd [[Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru]] gan [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]] gan [[Jeremy Miles]] AC, [[Cwnsler Cyffredinol Cymru]] dan gadeiryddiaeth [[John Thomas, Barwn Thomas Cwmgiedd|Arglwydd Thomas o Gwmgïedd]].<ref>https://llyw.cymru/comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru</ref> Yn 2019 cyhoeddi 78 argymhelliad gan gynnwys datganoli plismona i Gymru ac y dylai cyfreithiau sy'n cael eu gweithredu yng Nghymru gael eu trin fel rhai ar wahân i gyfreithiau Lloegr, <ref>https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50151785</ref> sef, datganoli pwerau cyfiawnder i Gymru.<ref>https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/556310-comisiwn-galw-ddatganoli-pwerau-cyfiawnder-gymru</ref>
 
Er i Gymru feddu ar ei barnwriaeth annibynnol ei hun ers dyddiau [[Hywel Dda]] cafwyd gwared arnynt yn [[Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542|"Deddfau Uno" 1536 ac 1542]]. Nid oes galwad i fynd yn ôl at y cyfreithiau cynhenid hynny, ond mewn cydnabyddiaeth o etifeddiaeth gyfreithiol unigryw Gymreig, enwyd [[Tŷ Hywel]], sef adeilad [[Senedd Cymru]] mewn gwrogaeth i'r brenin a'i gyfreithiau hynafol.
Llinell 74:
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau|2}}
 
 
[[Categori:Seneddau]]