George Hartley Bryan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 13:
[[File:"Bamboo Bird" at Traeth Coch - G.H.Bryan's Plane.jpg|left|thumb|Awyren fechan G.H.Bryan, sef "Bamboo Bird" yn [[Traeth Cpch|Nhraeth Coch]], [[Benllech]], Ynys Môn.]]
Yn 1896 apwyntiwyd ef yn athro ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac o fewn ychydig fisoedd, yn 32 oed, dyrchafwyd ef i Gadair Mathemateg Bur a Chymhwysol y brifysgol. Ei brif gynorthwywyr yno oedd Edgar Henry Harper, darlithydd mewn mathemateg a Ei brif gynorthwywyr ym Mangor oedd Edgar Henry Harper, darlithydd mewn mathemateg, a [[William Ellis Williams]] ("W.E."), mab i chwarelwr yn [[Bethesda|Nyffryn Ogwen]]. Cyfrannodd WE yn helaeth i ddatblygiad Peirianneg Drydanol ym Mangor ac am ugain mlynedd olaf ei yrfa, bu’n bennaeth Adran Trydan Cymhwysol newydd a sefydlwyd yno yn 1927 ac fe'i dyrchafwyd yn Athro cyntaf peirianneg electronig yn 1942.<ref name="Cyfri’n Cewri">{{cite book |last1=Roberts |first1=Gareth Ffowc |title=Cyfri’n Cewri |date=July 2020 |publisher=University of Wales Press |location=Cardiff |isbn=9781786835949 |url=https://www.uwp.co.uk/book/cyfrin-cewri/ |access-date=22 February 2021 |ref=Cyfri’n Cewri}}</ref>
 
WE oedd y dyn ymarferol, y periannydd gyda’r gallu i gynllunio arbrofion er mwyn rhoi syniadau Bryan ar brawf. Un o’r arbrofion mwyaf uchelgeisiol, a llai llwyddiannus, oedd adeiladu awyren a cheisio’i hedfan ar Draeth Coch ger Benllech ar Ynys Môn.
 
Yn 1911, yn fuan ar ôl hedfaniad llwyddiannus y brodyr Wright, cyhoeddodd Bryan ei gampwaith, ''Stability in Aviation'', llyfr cwbl chwyldroadol. Mae'r astudiaeth hon o sadrwydd awyren yn ddadansoddiad mathemategol manwl sy'n sail i ddyluniad yr awyren fodern. Dros gan mlynedd wedi’i gyhoeddi mae'n parhau i fod yn glasur yn ei faes.
 
Ar wahân i fân wahaniaethau mewn nodiant, mae hafaliadau Bryan yn 1911 yr un fath â'r rhai a ddefnyddir heddiw i werthuso awyrennau modern. Yn rhyfeddol efallai, mae hafaliadau Bryan - a gyhoeddwyd wyth mlynedd yn unig ar ôl i’r awyren gyntaf hedfan - yn fwyaf cywir wrth eu rhoi ar jetiau uwchsonig! Wrth werthuso awyrennau yn fathemategol, canolbwyntiodd Bryan ar faterion sefydlogrwydd aerodynamig yn hytrach nag ar reolaeth; mae sefydlogrwydd a rheolaeth awyren yn tueddu i orwedd ar ddau ben arall yr un sbectrwm. Roedd ei ganlyniadau aeronautig yn estyniad o'i waith cynharach ym maes [[dynameg hylif]].<ref>{{Cite journal|last=Pekeris|first=C. L.|date=1961|title=Rotational Multiplets in the Spectrum of the Earth|journal=Physical Review|volume=122|issue=6|pages=1692–1700|doi=10.1103/physrev.122.1692|bibcode=1961PhRv..122.1692P}}</ref> Ym 1888, datblygodd Bryan fodelau mathemategol ar gyfer pwysau hylif mewn pibell ac ar gyfer pwysau bwclio allanol. Mae'r modelau hyn yn dal i gael eu defnyddio heddiw.