Caethwasiaeth ac Islam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol |
|||
Llinell 1:
Nid yw [[caethwasiaeth]] ynddo'i hun yn groes i ddysgeidiaeth [[Islam]], ond mae'r [[Corân]], yr [[hadith]], ac ysgolheictod Islamaidd fel rheol yn cyfyngu ar yr arfer hon. Ceir corff cymhleth o safbwyntiau ar y pwnc gan feddylwyr Islamaidd<ref name="auto">Brockopp, Jonathan E., “Slaves and Slavery”, in: Encyclopaedia of the Qurʾān, General Editor: Jane Dammen McAuliffe, Georgetown University, Washington DC.</ref><ref>Brunschvig, R., “ʿAbd”, in: ''Encyclopaedia of Islam, Second Edition'', Edited by: P. Bearman, Th. Bianquis, C.E. Bosworth, E. van Donzel, W.P. Heinrichs.</ref> sydd yn amrywio yn ôl grŵp, mudiad, gwlad, ac oes.<ref name="Lewis">Lewis 1994, [http://www.fordham.edu/halsall/med/lewis1.html Ch.1] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20010401012040/http://www.fordham.edu/halsall/med/lewis1.html |date=2001-04-01 }}</ref> Bu caethwasiaeth yn rhan o fywyd [[Arabia]] yn y cyfnod cyn-Islamaidd, yn bennaf o ganlyniad i ryfel.<ref name="auto"/><ref name=OEIW/> Ni cheisiai'r Corân (datguddiad [[Allah]]) na'r hadith (dywediadau'r Proffwyd [[Muhammad]]) wahardd caethwasiaeth a chafodd parhad yr arfer ei gymryd yn ganiataol gan Muhammad a'i ddilynwyr.
Yn hanesyddol, bu'r mwyafrif o gaethweision yn [[y byd Mwslimaidd]] naill ai yn weision a morwynion y tŷ neu yn filwyr, mewn cyferbyniad â [[masnach gaethweision yr Iwerydd|chaethwasiaeth yn y Byd Newydd]] a oedd yn seiliedig ar economi'r planhigfeydd. Bu eraill yn gweithio fel dyfrhawyr, cloddwyr, neu bugeiliaid. Brwydrodd y milwyr ar orchymyn y [[califf]] neu'r [[swltan]], a phenodwyd rhai ohonynt i swyddi uchel yn y llywodraeth a'r weinyddiaeth. Tyfodd y byddinoedd o gaethweision nes iddynt wrthryfela a sefydlu tiriogaethau neu lywodraethau a oedd yn annibynnol ar yr hen galiffiaid a swltaniaid.<ref>Behrens-Abouseif, Doris. Cairo of the Mamluks: A History of Architecture and Its Culture. New York: Macmillan, 2008.</ref> Rhoddir yr enw [[Mamlwciaid]] ar y caeth-filwyr a ddatblygodd yn ddosbarth rhyfelgar pwerus, a sefydlwyd sawl ymerodraeth a brenhinlin ganddynt, gan gynnwys y [[Ghaznavid]] (977–1186) a'r [[Khwarezmid]] (1077–1231) ym [[Persia|Mhersia]] a swltanaethau yng ngogledd [[yr India]] (1206–90), yn [[yr Aifft]] a'r [[Lefant]] (1250–1517), ac yn [[Irac]] (1704–1831). Weithiau byddent yn gwrthryfela o ganlyniad i gam-driniaeth, er enghraifft [[Gwrthryfel Zanj]] (869–883).<ref>Clarence-Smith (2006), pp.2-5</ref>
|