Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Luxmoore"

Lleihawyd o 10 beit ,  blwyddyn yn ôl
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
No edit summary
(Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB)
{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Lloegr}}|dateformat=dmy}}
Roedd '''John Luxmoore''' ([[1756]] - [[31 Ionawr]], [[1830]]) yn glerigwr Saesnig a wasanaethodd fel [[Esgob Llanelwy]]. <ref name=":0">{{Cite web|title=Luxmoore, John (1756–1830), bishop of St Asaph {{!}} Oxford Dictionary of National Biography|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-17233|website=www.oxforddnb.com|access-date=2019-11-17|doi=10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-17233|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Cefndir ==
Does dim sicrwydd o'i ddyddiad geni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys blwyf [[Okehampton]], Swydd Dyfnaint ar [[5 Ionawr]], [[1757]]. <ref>[https://www.familysearch.org/ark:/61903/1:1:N57D-KR9 Familysearch John Luxmoore - England Births and Christenings, 1538-1975] adalwyd 17 Tachwedd 2019</ref> Roedd yn blentyn i John Luxmoore, tirfeddiannwr a Mary (née Cunningham) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Ottery St Mary a [[Coleg Eton|Choleg Eton]]. Yn Eton enillodd ysgoloriaeth i fynd ymlaen i [[Coleg y Brenin, Caergrawnt|Goleg y Brenin, Caergrawnt]] lle graddiodd BA ym 1780 ac MA ym 1783. Derbyniodd gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan [[Archesgob Caergaint]] ym 1795. <ref name=":0" />
 
== Gyrfa ==
Wedi coleg penodwyd Luxmoore yn diwtor i Iarll Dalkeith (a daeth wedyn yn Ddug Buccleuch). O dan nawdd y dug, cafodd nifer o benodiadau eglwysig: daeth yn rheithor San Siôr y Merthyr, Sgwâr y Frenhines, [[Llundain]] ym 1782; yn brebend Caergaint ym 1793, yn ddeon Caerloyw ym 1799, ac yn rheithor Taynton, Swydd Gaerloyw, ym 1800. Ym 1806 cyfnewidiodd San Siôr y Merthyr am St Andrew's, Holborn. Ym 1807 daeth yn esgob Bryste ac ym 1808 trosglwyddwyd ef i esgobaeth Henffordd. Wedi marwolaeth William Cleaver ym 1815 penodwyd Luxmoore yn Esgob Llanelwy yn ei le. Parhaodd yn Llanelwy hyd ei farwolaeth. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n251|Thomas, David Richard ''Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 251]</ref>
 
Ac eithrio cyhoeddi tri o'i bregethau, prin oedd cyfraniad Luxmoore i fywyd crefyddol Lloegr na Chymru. Mae o'n cael ei ystyried fel enghraifft bur o'r fath o ddyn oedd yn derbyn uchel swyddi eglwysig er mwyn ennill safle a chyfoeth personol a theuluol. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/152|Thomas, David Richard '' Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 152]</ref> Er bod ganddo swydd esgob parhaodd i dderbyn cyflog o swyddi eglwysig eraill nad oedd yn fodlon eu hildio. Yn ogystal â chasglu swyddi eglwysig iddo'i hun roedd hefyd yn eu rhan ag aelodau eraill ei deulu. Fel Esgob Henffordd, penododd ei fab hynaf, Charles Scott Luxmoore yn rheithor Cradley, ficer Bromyard, a Phrebendari Henffordd; ac, fel Esgob Llanelwy, ychwanegodd Darowen, Ddeon Llanelwy a Changhellor Llanelwy. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n261|Thomas, David Richard ''Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 261]</ref> Penododd mab arall iddo, John Henry Montague, yn rheithor Chwitffordd a churad parhaol Moreton on Lugg, rheithor Marchwiail, rheithor Llanarmon-yn-iâl, Prebendari Meifod a Phrebendari Llanelwy. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n273 Thomas, David Richard ''Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 273]</ref> Penododd, ei nai John Lukmoore (arall) yn rheithor Llanymynech.
 
== Teulu ==
Ym 1786 priododd Luxmoore ag Elizabeth Barnard, merch Y Parchedig Thomas Barnard <ref>{{Cite web|title=Summary of Individual {{!}} Legacies of British Slave-ownership|url=https://www.ucl.ac.uk/lbs/person/view/2146659597|website=www.ucl.ac.uk|access-date=2019-11-17}}</ref> a nith Edward Barnard, profost Eton. Bu i'r cwpl deulu mawr. <ref name=":0" />
 
== Marwolaeth ==
Bu farw ym Mhalas yr Esgob Llanelwy yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell yng Nghapel y Cyfieithwyr yn adain ogleddol yr Eglwys Gadeiriol. <ref>[https://archive.org/details/historyofdiocese00thom/page/n233|Thomas, David Richard '' Esgobaeth Llanelwy: the history of the diocese of St Asaph''; tudalen 233]</ref> Ar un adeg roedd yr adain ogleddol yn cael ei ddominyddu gan gofeb enfawr i’r Esgob a’i feibion. Cafodd y gofeb ei ddatgymalu a'i ddisodli gan gofeb garreg syml i'r Esgob. <ref>{{Cite web|title=The Transepts of St Asaph Cathedral in Denbighshire North Wales|url=http://www.st-asaph.com/2018/05/23/the-transepts/|website=|date=2018-05-23|access-date=2019-11-17|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Luxmoore, John}}
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Luxmoore, John}}
[[Categori:Esgobion Llanelwy]]
[[Categori:Genedigaethau 1756]]
452,433

golygiad