Moshav: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Diffiniad a gweithrediad: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 13:
Mae'r Moshavim yn bentrefi sydd â "chydweithfa aml-swyddogaeth" (Willner, 1969). Er bod cydweithfa gonfensiynol yn aml yn canolbwyntio ar un swyddogaeth (cynhyrchu nwyddau, diogelu cymdeithasol, gwerthu nwyddau am brisiau gostyngol, darparu offer amaethyddol, ac ati), mae mosiaf yn grwpio'r holl swyddogaethau hyn o fewn un swyddogaeth. Gellir meddwl am y mosiaf fel [[bwrdeistref]] fach neu fath pentref. Rhaid i unrhyw aelod o'r pentref hefyd fod yn aelod rheolaidd o'r cwmni cydweithredol.
 
Yn wahanol i'r cibwts, dydy'r Mosiaf ddim yn system cyfunolaidd. Yn y cibwts mae popeth yn cael ei wneud ar y cyd: prydau, gwaith, ac ati. Mae'r moshav yn wahanol ac wedi ei threfnu ar hyd y bywyd teuluol clasurol, gyda'r teulu neu'r unigolyn yn gweithio ei dir fferm, wedi'i ganoli ar yr uned deuluol. Ond mae gan y mosiaf drefnu gydweithredol amlochrog rhwng aelodau'r mosiaf, trwy sefydlu llawer o wasanaethau ar y cyd (darparu offer amaethyddol, marchnata cynhyrch y mosiaf, gwasanaethau cymdeithasol, canolfannau hamdden, gweithgareddau diwylliannol, mynediad at gredyd).
 
Gall rhai o weithgareddau'r moshav, ond nid pob un ohonynt, fod yn gyfunolaidd o ran natur, megis menter marchnata amaethyddol. Trwy ddiffiniad, nid yw'n bosibl gweithio'n annibynnol, tra bo hyn yn bosibl ar gyfer defnydd tir.