Tild: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 6:
 
* Gellir ei ddefnyddio yn [[Sbaeneg]] dros y llythyren ''n'' i ddangos y dylid ei hynganu fel [[cytsain daflodol]] (a ddangosir fel ɲ yn yr [[Gwyddor Seinegol Ryngwladol|Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA)]]), fel yn y geiriau ''España'' ("Sbaen"), ''mañana'' ("yfory") a ''niña'' ("merch"). (Sylwch fod y ddwy lythyren ''n'' yn ''mañana'' ac ''niña'' yn digwydd gyda tild a heb tild; mae synau'r ddwy lythyren yn dra gwahanol.) Mae'r defnydd hwn o ''ñ'' i'w gael yn systemau ysgrifennu nifer o ieithoedd eraill, e.e. [[Astwrieg]], [[Basgeg]], [[Galisieg]], [[Aymara]], [[Guaraní (iaith)|Guaraní]], [[Quechua]], [[Tetwm]] a [[Woloffeg]].
 
* Yn [[Llydaweg]], fodd bynnag, mae'r llythyren ''ñ'' yn ddistaw, ond mae'n dangos y dylai'r llafariad blaenorol fod yn drwynoledig.
 
* Defnyddir y tild ym [[Portiwgaleg|Mhortiwgaleg]] dros y llythrennau ''a'' ac ''o'' i ddangos y dylid eu hynganu fel llafariaid trwynoledig, e.e. ''balão'' ("balŵn''), ''balões'' ("balwnau").
 
* Yn [[Hen Roeg]] gellir ei defnyddio yn lle [[acen grom]] i ddangos yr acen "uchel-isel".
 
* Yn [[Fietnameg]] dros lafariad mae'n dynodi [[Tôn (iaith)|tôn]] "creclyd".