Ferdinand I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
bocs olyniaeth |
|||
Llinell 6:
Rhoddwyd tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid yng Nghanolbarth Ewrop yng ngofal Ferdinand, a fe'i penodwyd yn Archddug Awstria ac yn Rhaglyw Württemberg. Am ddeng mlynedd ar hugain a mwy, Ferdinand oedd yn ddirprwy ei frawd yn nhiroedd Almaenig y Hapsbwrgiaid, a gwasanaethodd yn llywydd y Reichsregiment, cyngor llywodraethol [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]], ac yn gynrychiolydd mewn cynulliadau ymerodrol.<ref name=EB/> Yn sgil marwolaeth [[Lewis II, Brenin Hwngari a Bohemia]], a oedd yn briod i'w chwaer Mair, ym Mrwydr Mohács yn 1526, etholwyd Ferdinand yn Frenin Bohemia a Hwngari a fe drodd y coronau hynny yn eiddo i etifeddion Tŷ Hapsbwrg. Hawliwyd Teyrnas Hwngari hefyd gan [[János Zápolya]], a chytunodd y ddau frenin i rannu'r wlad rhyngddynt yn ôl Cytundeb Nagyvárad (1538). Bu Ferdinand hefyd yn wynebu bygythiad [[yr Ymerodraeth Otomanaidd]], a lwyddodd i goncro rhannau o Hwngari ym Mrwydr Mohács. Methiant a fu'r gwarchae Otomanaidd ar [[Fienna]] yn 1529.
Yn sgil ymddiorseddiad Siarl V yn 1556, rhennid tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid rhwng ei fab [[Philip II, brenin Sbaen]], a Ferdinand a goronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1558. Aeth ati i ganoli gweinyddiaeth yr ymerodraeth ac i adfywio'r ffydd Gatholig yn ei diriogaethau. Bu'n rhaid i Ferdinand gytuno i dalu teyrnged i'r Otomaniaid yn 1562 am ei diriogaeth yng ngorllewin Hwngari. Bu farw Ferdinand yn Fienna yn 61 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei fab [[Maximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Maximilian II]].<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Ferdinand-I-Holy-Roman-emperor |teitl=Ferdinand I (Holy Roman emperor) |dyddiadcyrchiad=31 Mawrth 2020 }}</ref>
|