Mary Anne Disraeli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 7:
Ganed Evans yn Brampford Speke, ger [[Caerwysg]] yn [[Dyfnaint|Nyfnaint]], yn unig ferch y Comander John Viney-Evans a'i wraig a chyfnither Eleanor Scrope-Viney (Mrs Eleanor Yate yn ddiweddarach). Roedd Mary Anne yn nith i'r Cadfridog Syr James Viney, tirfeddiannwr mawr gydag ystadau yn swydd Caerloyw a Morgannwg. Gan fod Syr James yn di blant brawd Mary Anne, y Cyrnol John Viney Evans, oedd ei etifedd tybiedig. Pan fu farw John ym 1834 daeth Mary Anne yn etifedd i'r ffortiwn enfawr yn ei le.
 
Ym 1815 yn Clifton, Bryste priododd Mary â Wyndham Lewis. Roedd Lewis yn dirfeddiannwr cefnog o [[Tongwynlais|Dongwynlais]] ac yn un o berchenogion [[Gwaith Haearn Dowlais|gwaith haearn Dowlais]]. Gwasanaethodd fel [[Aelod Seneddol]] [[Caerdydd (etholaeth seneddol)|Caerdydd]] rhwng 1820 a 1826, AS Aldeburgh rhwng 1827 a 1829 a Maidstone rhwng 1835 a 1838. <ref>{{Cite web|title=LEWIS, WYNDHAM (1780 - 1838), A.S. {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-LEWI-WYN-1780|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-11-20}}</ref> Trwy gydol ei phriodas a Lewis, Mary Anne fu'n gyfrifol am weinyddodd ystadau ei gŵr. Roedd ei gŵr oddi cartref lawer o'r amser, tra treuliodd Mary Anne ei dyddiau yn cynnal partïon ac yn difyrru eu ffrindiau. Ac o'i gohebiaeth sydd wedi goroesi mae'n amlwg bod Mary Anne wedi mwynhau nifer o berthnasau rhywiol gyda dynion ei chylch cymdeithasol, yn briod ac yn sengl, heb lawer o sylw gan ei gŵr oedrannus. <ref>{{Cite web|title=Disraeli, Mary Anne (1792–1872) {{!}} Encyclopedia.com|url=https://www.encyclopedia.com/women/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/disraeli-mary-anne-1792-1872|website=www.encyclopedia.com|access-date=2020-11-20}}</ref>
 
Roedd Maidstone yn etholaeth a oedd yn dychwelyd dau aelod i'r senedd. Ym 1837 etholwyd Benjamin Disraeli yn gyd aelod â Lewis dros yr etholaeth. Roedd Disraeli yn gyfeillgar â Lewis a thalodd Lewis ei gostau etholiadol. Roedd Disraeli wedi cwrdd â Mary Anne bum mlynedd ynghynt, pan ddisgrifiodd hi fel ''clec-wraig a fflyrt'', ond wedi dod yn gyd aelod seneddol a'i gŵr gwellodd y berthynas rhyngddynt. <ref>{{Cite book|title=Disraeli, or, The two lives : a biography|url=https://www.worldcat.org/oclc/810947174|location=Llundain|isbn=978-0-297-86097-6|oclc=810947174|last=Hurd|first=Douglas|publisher=W&N|year=2013|pages=97}}</ref>
 
Ym mis Awst 1839, y flwyddyn ar ôl marwolaeth Lewis, priododd â Disraeli yn Eglwys St George, Sgwâr Hanover, Llundain. Caniataodd ei ffortiwn hi i'w gŵr newydd brynu ystâd Hughenden yn [[Swydd Buckingham]] a byw fel gŵr bonheddig Saesnig. <ref>{{Cite web|title=Disraeli [née Evans; other married name Lewis], Mary Anne, Viscountess Beaconsfield (1792–1872), political wife|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-39791;jsessionid=A495F0929D55019A3E23E9F8B521CD40|website=Oxford Dictionary of National Biography|access-date=2020-11-20|doi=10.1093/ref:odnb/39791|language=en}}</ref>
 
I gydnabod gwasanaeth Disraeli i'r genedl, roedd y [[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines Victoria]] yn dymuno ei ddyrchafu i'r bendefigaeth ar ddiwedd ei brifweinidogaeth gyntaf. Fodd bynnag, gan ei fod yn dymuno aros yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ’r Cyffredin]], derbyniodd ei wraig y teitl yn ei le a chafodd ei chreu yn '''Is-iarll Beaconsfield''', o [[Beaconsfield]] yn [[Swydd Buckingham]], ar 30 Tachwedd 1868. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4449763|title=NEWS OF THE WEEK - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality|date=1868-12-05|accessdate=2020-11-20|publisher=Kenmuir Whitworth Douglas|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> (Ar ôl marwolaeth Mary, derbyniodd Disraeli y teitl Iarll Beaconsfield.)
 
Roedd Fictoriaid parchus yn aml yn cael eu sgandaleiddio gan sgwrs ddi-rwystr Mary ond buan y dysgon nhw beidio â’i sarhau yng nghlyw Disraeli. <ref>Hesketh Pearson ''Dizzy- the life and personality of Benjamin Disraeli, Earl of Beaconsfield'' Harper Collins New York 1951 p.214</ref> Dywedwyd bod hyd yn oed y Frenhines Victoria wedi ei synnu pan wnaeth Mary Anne sylw, mewn ymateb i sylw am wedd welw rhyw fenyw, "Hoffwn pe gallech weld fy Dizzy yn ei faddon!" Unwaith, mewn parti tŷ lle'r oedd yr Arglwydd Hardinge, milwr mawr y dydd, yn yr ystafell nesaf i'r Disraelis, cyhoeddodd Mary Anne amser brecwast ei bod wedi cysgu'r noson cynt rhwng y milwr mwyaf (Hardinge) a'r areithiwr mwyaf (Disraeli) o'u hoes: yn bendant ni chafodd Lady Hardinge ei difyrru gan y sylw. <ref>{{Cite web|url=https://www.theguardian.com/books/2015/jan/09/political-romance-benjamin-mary-anne-disraeli|title=A political romance: Benjamin and Mary Anne Disraeli|last=Hay|first=Daisy|date=2015-01-09|website=[[The Guardian]]|access-date=2018-08-24}}</ref>
[[Delwedd:The_Primrose_Tomb_-_geograph.org.uk_-_154226.jpg|chwith|bawd| Beddrod teulu Disraeli, Hughenden]]
Roedd hi'n gymorth mawr i'w gŵr wrth olygu'r llyfrau a ysgrifennodd, a threuliodd 30 mlynedd yn gofalu amdano. <ref>Pearson p.75</ref> Fe wnaeth hi gellwair yn gyhoeddus unwaith y byddai, er ei fod wedi ei phriodi am ei harian, yn ei wneud eto er cariad. <ref>Kirsch, Adam, Benjamin Disraeli (Knopf Doubleday Publishing Group, 2008), p.106</ref> Yn ddiweddarach yn ei bywyd daeth yn fwyfwy ecsentrig, o ran sgwrs ac ymddangosiad, ond ni wnaeth defosiwn a theyrngarwch ei gŵr iddi fyth fethu. <ref>Pearson, p214</ref> Roedd hi ryw ddeuddeg mlynedd yn hŷn na'i gŵr ond parhaodd eu rhamant hyd y diwrnod y bu farw. <ref>Pearson p.214</ref>
 
== Marwolaeth ==
Yng ngwanwyn 1872 aeth Mary yn ddifrifol wael, ac erbyn mis Mai roedd yn amlwg ei bod yn marw o ganser y stumog. Fe wnaeth hi wella’n ddigonol i fynd ar daith haf drwy’r [[Siroedd Cartref]] gyda’i gŵr. Ym mis Tachwedd roedd hi'n teimlo'n ddigon da i gynnal parti cinio bach i'w ffrindiau agos; ond dirywiodd ei chyflwr a bu farw ar 15 Rhagfyr, yn bedwar ugain oed. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3307171|title=THE LATE LADY BEACONSFIELD - The Cambrian News and Merionethshire Standard|date=1872-12-20|accessdate=2020-11-20|publisher=John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Cafodd ei chladdu gyda Disraeli mewn claddgell yn Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Hughenden, yn [[Hughenden Valley|Hughenden, Swydd Buckingham]], yn agos at gartref y teulu Disraeli. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3497811|title=FUNERAL OF LADY BEACONSFEILD - South Wales Daily News|date=1872-12-20|accessdate=2020-11-20|publisher=David Duncan and Sons|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Mae'r eu cartref bellach yng ngofal yr [[Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol|Ymddiriedolaeth Genedlaethol]], ac mae wedi'i gadw yn y modd ydoedd pan oedd y Disraelis yn byw ynddo. Mae ar agor i'r cyhoedd fel atyniad i ymwelwyr. <ref name="nt-hughenden">{{Cite web|title=Hughenden Manor|url=http://www.nationaltrust.org.uk/hughenden-manor/|website=National Trust|access-date=11 April 2012}}</ref>
 
== Arfbais ==