Vaughan Gething: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen newydd
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 61:
[[Gwleidydd]] [[Cymry|Cymreig]] yw '''Vaughan Gething''' (ganwyd [[1974]]). Mae e wedi gwasanaethu fel Aelod Cynulliad [[De Caerdydd a Phenarth (etholaeth Cynulliad)|De Caerdydd a Phenarth]] ers 2011.
 
Ef yw Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn [[Llywodraeth Cymru]].<ref name="llyw.cymru">https://llyw.cymru/vaughan-gething-as</ref>
 
==Gyrfa==
 
Ym Mis Mehefin 2013, penodwyd Vaughan Gething yn Dirprwy Weinidog Threchu Tlodi. Ym Mis Medi 2014, penodwyd Vaughan yn Dirprwy Weinidog Iechyd. Ym mis Mai 2016, penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Penodwyd Vaughan yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 penodwyd Vaughan yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.<ref>https:// name="llyw.cymru"/vaughan-gething-as</ref>
 
 
==Gething a'r COVID-19==
Gething oedd Gweinidog Iechyd Cymru adeg [[Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru|COVID-19]] ("Y Gofid Mawr" fel y'i gelwid). Bu hyn yn gyfnod di-gynsail o ran delio ag haint a'r straen ar wasanaethau iechyd a chyhoeddus i unrhyw wleidydd o'r cyfnod. Beirniadwyd Gething yn hallt am beidio galw ar ganslo gêm [[Rygbi'r Undeb|rygbi]] ryngwladol rhwng [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]] a'r [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban|Alban]] oedd i'w chwarea yn [[Stadiwm y Mileniwm|Stadiwm y Principality]] ar 14 Mawrth 2020.<ref>https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-51853674</ref><ref>https://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-news/welsh-health-minister-who-said-17926936</ref>
 
Daeth Gething o dan sawl beirnidaeth gan gynnwys gan y gwyddonydd [[Gwobr Nobel]], yr Athro Syr Martin Evans. Ar 21 Ebrill 2020, cyhuddodd Evans llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).<ref>https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52370745</ref>
 
Bu iddo ddenu sylw rhyngwladol wedi iddo gael ei ddal yn rhegi pan anghofiodd ddiffodd ei feicroffôn mewn cyfarfod dros y we o [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Gynulliad Cymru]] ar 22 Ebrill 2020.<ref>https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/567004-what-sylwadau-vaughan-gething-aelod-llafur-cael</ref><ref>https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52387308</ref> Bu galw arno i ymddiswyddo gan [[Adam Price]], Arweinydd [[Plaid Cymru]]<ref>https://twitter.com/Adamprice/status/1252985455546679296</ref>.
 
{{Cabinet Llywodraeth Cymru}}