John Henry Williams (VC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
||
Llinell 10:
Ym 1906 ymunodd a chwmni milisia [[Cyffinwyr De Cymru]] fel milwr wrth gefn. Ar doriad [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], ym 1914, rhoddodd gorau i'w waith gan ymrestru fel milwr llawn amser yn y 10fed Bataliwn, [[Cyffinwyr De Cymru]] (rhan o'r 38ain adran (Cymreig)). Fe'i dyrchafwyd yn rhingyll ym mis Ionawr 1915.<ref name="VCOnLine">[http://vconline.org.uk/john-h-williams-vc/4588539349 VC On Line John Henry Williams (1886-1953)] adalwyd 3 Ionawr 2019</ref>
Bu ei gatrawd yn gwasanaethu yn [[Ffrainc]] a [[Gwlad Belg]]. Ym 1916 bu'n rhan o'r cyrch ar [[Coedwig Mamets|Goedwig Mametz]]. Enillodd Williams ei fedal gyntaf, [[Urdd Gwasanaeth Nodedig|Y Fedal Ymddygiad Nodedig]], am ei ran yn y cyrch am ''hunanfeddiant gwrol, parhaus a chyson yn ystod y frwydr''.
Bu yn rhan o Drydedd Frwydr [[Ieper|Ypres]] yng Ngorffennaf ac Awst 1917, gan ennill y Fedal Filwrol am ''Ddewrder ar gychwyn y frwydr i feddiannu Uchderau Passchendaele''. Dyfarnwyd iddo glesbyn i'w Medal Filwrol ym mrwydr Armentieres ar 30th Hydref 1917 am ''ddewrder wrth achub cydfilwr clwyfedig''
Llinell 20:
Cafodd ei ryddhau o'r fyddin wedi ei ddyrchafu yn Uwch-ringyll Cwmni am resymau meddygol ar 17 Hydref 1918 wedi ei anafu'n ddifrifol gan fflawiau haearn yn ei goes a'i fraich de.
Ym 1919, arwisgwyd Williams gyda'i Fedal Groes Victoria, Medal Ymddygiad Arbennig a'r Fedal Filwrol gyda chlesbyn gan [[Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig]], y tro cyntaf i'r Brenin addurno'r un dyn bedair gwaith mewn un diwrnod.
Ym mis Ionawr 1919 dyfarnwyd iddo y ''Medaille Militaire'' un o brif wobrau milwrol Ffrainc.<ref>[https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-east-wales-26490482 BBC Ebbw Vale plaque honour WW1 soldier John Henry Williams] adalwyd 3 Ionawr 2019</ref>
Dychwelodd i weithio i Gwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy fel porthor yn swyddfeydd y cwmni. Rhoddwyd tŷ, glo a thrydan am ddim iddo am weddill ei fywyd gan ei gyflogwyr i gydnabod ei wasanaeth milwrol arbennig.
Yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] bu'n gwasanaethu fel rhingyll yn y Gard Cartref.
Llinell 31:
Mae bedd a maen coffa Williams ym mynwent [[Glynebwy]]. Cafodd y garreg bedd gwreiddiol ei dynnu wrth glirio'r fynwent a chafodd carreg newydd ei godi ar 21 Hydref 1990.
Ym Medi 2018, cysegrodd pentrefwyr Villers-Outréaux cofeb i Williams a gomisiynwyd yn arbennig i'w goffáu ef ac i fynegi eu diolch iddo am achub eu pentref rhag ei ddinistrio. Mae cofeb iddo hefyd yn Nant-y-Glo. I nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf gosodwyd plac er cof amdano ar fur pencadlys Cyngor Blaenau Gwent <ref name="BlGwent" /> ac i nodi canmlwyddiant diwedd y rhyfel dadorchuddwyd cofeb iddo yn [[Nant-y-glo]]<ref>[https://www.southwalesargus.co.uk/news/16896911.memorial-stone-unveiled-for-first-world-war-hero-csm-john-jack-henry-williams/ Argus 28 Medi 2018: ''Memorial stone unveiled for First World War hero CSM John (Jack) Henry Williams''] adalwyd 3 Ionawr 2019</ref>. Ym mis Tachwedd 2018 awgrymwyd enwi pont newydd dros yr A465 rhwng [[Brynmawr]] a [[Gilwern]] er anrhydedd iddo.
Mae Croes Victoria Williams yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Gatrodol [[Y Cymry Brenhinol]] yn [[Aberhonddu]].
Llinell 38:
{{cyfeiriadau}}
{{DEFAULTSORT:Williams, John Henry}}▼
{{Rheoli awdurdod}}
▲{{DEFAULTSORT:Williams, John Henry}}
[[Categori:Genedigaethau 1886]]
[[Categori:Marwolaethau 1953]]
[[Categori:Croes Fictoria]]
[[Categori:Milwyr Cymreig]]
[[Categori:Prosiect Wicipobl]]
|