D. W. Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cyfeiriad
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: 'roedd → roedd (2) using AWB
Llinell 8:
Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd '''David Llewelyn Wark Griffith''' (22 Ionawr 1875 - 23 Gorffennaf 1948<ref name="obit">{{cite news|coauthors=|title=David W. Griffith, Film Pioneer, Dies; Producer Of 'Birth Of Nation,' 'Intolerance' And 'America' Made Nearly 500 Pictures Set, Screen Standards Co-Founder Of United Artists Gave Mary Pickford And Fairbanks Their Starts.|url=|quote=|work=New York Times|date=Gorffennaf 24, 1948|accessdate=Gorffennaf 21, 2007}}</ref>), a anwyd yn La Grange, [[Kentucky]], UDA<ref>{{Cite web|url=http://www.gildasattic.com/dwgriffith.html|title=D. W. Griffith (1875-1948)|date=Awst 10, 2002|access-date=Ionawr 16, 2020|website=Gilda Tabarez|last=Drew|first=William M.|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref><ref name=":1">{{Cite web|url=https://www.imdb.com/name/nm0000428/bio?ref_=nm_ov_bio_sm|title=D.W. Griffith|date=|access-date=Ionawr 16, 2020|website=IMDb|last=Kaminsky|first=Michael|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Roedd yn fab i Gymro<ref>{{Cite web|url=https://www.geni.com/people/NN-Griffith/6000000059663209165|title=LD. NN Griffith (Barrington/Brayington)|date=Mai 28, 2017|access-date=Ionawr 16, 2020|website=geni.com|last=Cota|first=Alfred "Ed Moch"|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> a chyn-swyddog yn y fyddin y Confederate (Y Cyrnol "Roaring Jake" Griffith) a fu farw (yn 1885) o glwyfau a gafodd yn ystod [[Rhyfel Cartref America]] pan oedd Griffith yn 10 oed. Fe'i hystyriwyd yn un o dadau'r ffilm naratif<ref name=":0">{{Cite book|title=The Oxford History of World Cinema|last=Nowell-Smith|first=Geoffrey (gol)|publisher=Gwasg Prifysgol Rhydychen|year=1996|isbn=0198742428|location=Oxford|pages=}}</ref>. [[Delwedd:The adventures of Dollie.webm|bawd|chwith|''The Adventures of Dollie'' (1908)]]Yn ei ugeiniau cychwynnodd gyrfa, aflwyddiannus braidd, ar y llwyfan. Yn 1907, yn dilyn methiant ei gynhyrchiad ''A Fool and a Girl'', fe drodd ei olygon at [[Hollywood]], gan ysgrifennu ag actio i gwmnïoedd ''Edison'' a ''Biograph''. Yn 1908 cafodd swydd fel cynhyrchydd gan ''Biograph'' a cychwynnodd ei yrfa go iawn. Hyd at 1913 cynhyrchodd dros 400 o ffilmiau i'r cwmni - gan orffen gyda ''Judith of Bethulia'' (ffilm 4 rîl a rhyddhawyd yn 1914). Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei grefft yn aruthrol - yn arbennig agweddau golygu a pherfformio. Daeth yn enwog am olygu crefftus yr "achub munud olaf". Cafodd yr agweddau yma dylanwad mawr ar y diwydiant - gan wneud ''Biograph'' yn flaengar iawn<ref name=":0" />.
 
Yn 1913 gadawodd Griffith ''Biograph'' i dorri ei gŵys ei hun. Ar ôl cyfnod byr o arbrofi, cynhyrchodd ''The Birth of a Nation'' (a rhyddhawyd yn Ionawr 1915), a sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes. Hon oedd y ffilm hiraf a mwyaf cymhleth erioed ar y pryd (ryw 3 awr o hyd dros 12 rîl). Seiliwyd y naratif (sy'n cynnwys elfennau hanesyddol a dychmygol am [[Rhyfel Cartref America|Ryfel Cartref America]] a'r cyfnod yn syth ar ei ôl) ar nofel a drama gan Thomas Dixon Jr., o'r enw ''The Clansman''. (''The Clansman'' oedd enw gwreiddiol y ffilm, hefyd.) Fel mae'r enw hwn yn awgrymu, mae gryn ystyriaeth garedig o'r Klu Klux Klan yn y ffilm. Yn wir fe atgyfnerthwyd y gymuned hiliol honno yn sylweddol gan ei ymddangosiad. Oherwydd hyn, erys y ffilm yn un dadleuol iawn (fel y bu ar y pryd) - ac, o'r herwydd, yn hanesyddol. (Fe'i dyfarnwyd o bwys hanes diwylliant America gan [[Llyfrgell y Gyngres|Lyfrgell Cyngres]] yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] yn 1992.) Am weddill ei yrfa bu Griffith yn amddiffyn a gwneud yn iawn am yr agwedd hon o'i gampwaith technegol. Y cam gyntaf oedd ei ffilm nesaf, ''Intolerance'' (1916), a llwyddodd i fod yn hyd yn oed yn fwy mawreddog ym mhob ffordd. Fel yr awgrymir gan y teitl, 'roedd hwn yn ymgais uniongyrchol gan Griffith i ateb yr honiad ei fod yn ddyn hiliol. Yn y drydedd o'i ffilmiau gorau, ''Broken Blossoms'' (1919), aeth Griffith un cam ymhellach i ateb y feirniadaeth. Fe sicrhaodd mai o [[Tsieina]] y daw cymeriad positif y ffilm (Cheng Huan). Er dyn gwyn (Richard Barthelmess) a'i hactiodd !<ref name=":0" />.
 
[[Delwedd:Griffith-intolerance.jpg|bawd|chwith|Set ''Intolerance'' (1919). Ail grëwyd muriau Babylon llawn maint ar gyfer cynhyrchiad '''D.W. Griffith'''|alt=]]Griffiths, ynghyd â [[Charles Chaplin|Charlie Chaplin]], Mary Pickford a Douglas Fairbanks, sefydlodd stiwdio United Artists yn 1919<ref>{{Cite news|url=https://www.nytimes.com/2007/03/04/business/yourmoney/04cruise.html|title=Mission Improbable: Tom Cruise as Mogul|last=Siklos|first=Richard|date=Mawrth 4 2007|work=New York Times|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=Ionawr 16 2020}}</ref>.
 
Er i Griffith dal i gynhyrchu ffilmiau am ddegawd arall (roedd ei ddau olaf yn "talkies"), roedd ei oes aur ar ben. Ni lwyddodd i symud gyda'r oes - 'roedd ei galon o hyd ym myd sentimental y 19 ganrif. Collodd arian, ac ar ôl ''Orphans of the Storm'' (1921) nid oedd yn medru fforddio cyflogi ei "protege" Lillian Gish<ref>{{Cite web|url=https://www.imdb.com/name/nm0001273/bio|title=Lillian Gish|date=|access-date=Ionawr 16, 2020|website=IMDb|last=Tony Fontana|first=Denny Jackson|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> (a gafodd gyrfa ddisglair iawn i'r 1950au), hyd yn oed<ref name=":0" />.
 
Roedd Griffith yn aelod o’r Seiri Rhydd<ref>{{Cite web|url=https://www.masonrytoday.com/index.php?new_month=1&new_day=22&new_year=2015|title=TODAY in Masonic History: David Llewelyn Wark "D. W." Griffith is Born|date=|access-date=Ionawr 16, 2020|website=masonrytoday.com|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Priododd Linda Arvidson yn 1906 (ysgarwyd 1936) ac Evelyn Baldwin yn 1936 (ysgarwyd 1947)<ref name=":1" />.
 
Methodd gyrfa Griffith fel cynhyrchydd goroesi methiant ''The Struggle'' (1931) ac yn fuan fe'i hanghofiwyd gan ei gynulleidfaoedd<ref name=":0" />. Bu farw'n unig. Er i'w gyd-weithwyr ym myd y ffilm ei barchu am ei gyfraniad allweddol i ddatblygiad y ffilm, ychydig iawn a ddaeth i dalu gwrogaeth iddo mewn cyfarfod coffa yn Hollywood ar ôl ei farw yno ar Orffennaf 23, 1948. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwyd Methodisdaidd Mount Tabor yn Centerfield, Kentucky<ref>{{Cite book|title=D.W. Griffith: An American Life.|last=Schickel|first=Richard|publisher=Hal Leonard Corporation.|year=1996|isbn=087910080X|location=|pages=31}}</ref>.
 
<br />
 
== Ffilmiau ==