Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "William Williams (Gwilym ab Ioan)"

Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
(Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB)
{{Gwybodlen person/Wicidata|fetchwikidata=ALL|onlysourced=no|suppressfields=dinasyddiaeth|nationality={{banergwlad|Cymru}}{{banergwlad|UDA}}|dateformat=dmy}}
Roedd '''William John Williams (Gwilym ab Ioan)''' ([[1800]] – [[28 Ionawr]] [[1868]]) yn fardd Cymraeg yn [[Unol Daleithiau America|yr Unol Daleithiau]]. <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WILL-WIL-1800 WILLIAMS, WILLIAM (‘Gwilym ab Ioan’; 1800 - 1868), bardd yn U.D.A.;. Y Bywgraffiadur Cymreig] Adferwyd 26 Hyd 2020</ref>
 
== Cefndir ==
Ganwyd Gwilym ab Ioan yn y Tyddyn Du, [[Llanycil]], [[Sir Feirionnydd]] yn blentyn i John Williams gweithiwr amaethyddol a bardd gwlad. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol elfennol a gynhaliwyd gan Y Parch Richard Jones, Y Parc yng Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn [[Llanuwchllyn]]. Dysgodd cerdd dafod fel aelod o Gymdeithas Cymreigyddion, Llanuwchllyn. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3538142|title=Y DIWEDDAR GWILYM AP lOAN - Y Drych|date=1885-09-10|accessdate=2020-10-26|publisher=Mather Jones}}</ref>
 
== Gyrfa ==
Wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ym 1824 bu'n gweithio mewn cangen o fanc Nasau yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]]. Roedd yn aelod amlwg o gymdeithas Cymraeg y ddinas, yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Elusengar Dewi Sant ac yn ysgrifennydd Cymdeithas Fuddiol Dewi Sant. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2628237/2747887/28#?xywh=494%2C2590%2C1992%2C1295 Y Cyfaill o'r Hen Wlad yn America Cyf. XXXI rhif. 385 [&#91;376]&#93; - Ebrill 1868 William J Williams] Adferwyd 26 Hyd 2020</ref>
 
Cafodd llwyddiant eisteddfodol efo'i ganu. Enillodd gwobr o gini aur a medal yn Eisteddfod [[y Fenni]] 1837 am gyfres o 12 o englyn er cof am [[Thomas Price (Carnhuanawc)]]. Enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau yn yr Unol Daleithiau hefyd gan gynnwys dwy fedal arian am gerdd ar ffieidd-dra rhyfel ac am gerdd yn clodfori elusengarwch. Cyhoeddodd nifer fawr o gerddi ym mhapurau a chylchgronau Cymraeg America. Roedd yn cael cystadlaethau creu englyn byrfyfyr gyda'i gyfaill a chyd bardd Edward Jones (Eos Glan Twrch); wedi marwolaeth Gwilym, cyhoeddodd yr Eos nifer o'r englynion yn y papurau Cymraeg. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3538441|title=Englynion Pummynydol Gwilym Ab loan ac Eos Glan Twrch - Y Drych|date=1886-04-29|accessdate=2020-10-26|publisher=Mather Jones|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Rhwng 1853 a 1856 bu'n cyd-olygydd ''Y Cylchgrawn Cenedlaethol'' Cylchgrawn llenyddol misol, Cymraeg am lenyddiaeth, barddoniaeth a cherddoriaeth a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/browse/2672627/ Cylchgronau Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru - ''Y Cylchgrawn Cenedlaethol''] Adferwyd 26 Hyd 2020</ref>
 
== Teulu ==
 
== Marwolaeth ==
Bu farw Gwilym ab Ioan o anhwylder yr [[Aren|arennauaren]]nau yn 68 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cypress Hill, Long Island, Efrog Newydd. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2415365/2532794/18#?xywh=-427%2C2092%2C3455%2C2246 Y Cenhadwr Americanaidd Cyf. 29 rhif. 341 - Mai 1868 William J Williams] Adferwyd 26 Hyd 2020</ref> Y flwyddyn ganlynol enillodd ei gyfaill barddol Y Parch [[Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd)]] prif wobr Eisteddfod [[Utica, Efrog Newydd|Utica]] am [[s:Gwilym ab Ioan gan Risiart Ddu o Wynedd|bryddest er cof amdano]]. <ref>[https://archive.org/details/cofiantgweithiau1906jone/page/272/mode/2up? Jones, R. Mawddwy Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd (Y Bala 1906) tud 273 Pryddest: Gwilym ab Ioan] Adferwyd 26 Hyd 2020</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{DEFAULTSORT:Williams, William}}
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Williams, William}}
[[Categori:Genedigaethau 1800]]
[[Categori:Marwolaethau 1868]]
449,732

golygiad