Gogledd Macedonia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Added north
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 4:
Severna Makedonija'''''</big> | map lleoliad = [[Delwedd:LocationMacedonia.png|270px]] | banergwlad = [[Delwedd:Flag of Macedonia.svg|170px]] }}
 
Gwlad yn ne-ddwyrain [[Ewrop]] ar Orynys y [[Balcanau]] yw '''Gogledd Macedonia''' a arfer cael ei galw yn ''Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia'' (neu '''Gweriniaeth Macedonia'''). Newidiwyd yr enw yn swyddogol ar 12 Chwefror 2019 er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Prespa drwy'r [[Cenhedloedd Unedig]] â [[Gwlad Groeg]].<ref name="vlada.mk">https://vlada.mk/node/16763?ln=en-gb</ref>
 
Mae'n llenwi tua 38% o diriogaeth rhanbarth hanesyddol [[Macedonia (rhanbarth)|Macedonia]]. Mae'n rhannu ffiniau â [[Serbia]] i'r gogledd, [[Bwlgaria]] i'r dwyrain, [[Gwlad Groeg]] i'r de ac [[Albania]] i'r gorllwein. Tan [[8 Medi]] [[1991]], roedd yn rhan o [[Iwgoslafia]]. Tynnodd allan o ffederasiwn Iwgoslafia yn ddiweddarach na [[Slofenia]] a [[Croatia|Chroatia]]. Ei phrifddinas yw [[Skopje]], dinas o tua 600,000 o drigolion. Prif ddinasoedd eraill y wlad yw [[Bitola]], [[Prilep]], [[Tetovo]], [[Kumanovo]], [[Ohrid]], [[Veles]], [[Štip]] a [[Strumica]]. Mae poblogaeth Macedonia yn gymysg iawn. Y grŵp mwyaf yw'r [[Macedoniaid]] (Slafonaidd) (1,300,000, tua 64% o'r boblogaeth), ond mae hefyd leiafrif sylweddol [[Albaniaid]] (500,000, tua 25% o'r boblogaeth) a lleiafrifoedd llai o Dwrciaid, Sipswn a Serbiaid. Mae'r berthynas rhwng y ddau grŵp mwyaf wedi bod yn anodd ond mae'n gwella ers 2001, pryd cytunodd llywodraeth Macedonia dderbyn llu cadw heddwch o'r [[Cenhedloedd Unedig]] ac i ddatganoli grym i'r lleiafrif Albaneg. Yr iaith swyddogol yw [[Macedoneg]].
Llinell 11:
 
== Enw'r wlad ==
Ar hyn o bryd mae Macedonia (Macedoneg: ''Македонија''/''Makedonija'') yn defnyddio dau enw. Enw swyddogol y wlad yw ''Gweriniaeth Macedonia'' (Macedoneg: ''Република Македониjа''/''Republika Makedonija''). Nid oedd yr enw hwn yn dderbyniol gan lywodraeth [[Gwlad Groeg]], gan fod gan wlad Groeg ranbarth o'r un enw. Felly mae Macedonia wedi cytuno i ddefnyddio'r enw ''Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia'' (Macedoneg: ''Поранешна Југословенска Република Македонија''/''Poranešna Jugoslovenska Republika Makedonija'') fel enw dros dro yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, ac mewn mudiadau rhyngwladol eraill. Cytunwyd ar yw enw ''Gweriniaeth Gogledd Macedonia'' ar 12 Chwefror 2019.<ref>https:// name="vlada.mk"/node/16763?ln=en-gb</ref>
 
==Oriel==