Cymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen |
|||
Llinell 2:
:''Gweler hefyd [[Cymru Fydd (gwahaniaethu)]]''
'''Cymru Fydd''' yw enw mudiad gwladgarol a sefydlwyd gan rai o [[Cymry Llundain|Gymry Llundain]] yn [[1886]]. Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd [[hunanlywodraeth]] i [[Cymru|Gymru]]. Yr enw [[Saesneg]] ar y mudiad oedd ''Young Wales'', sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad [[Gwyddelod|Gwyddelig]] cyfoes dros hunanlywodraeth i [[Iwerddon]] ''[[Young Ireland]]''. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd [[datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]]. Yn y gyfrol ''Wales'' (gol. Keidrych Rhys) dywed [[gwynfor Evans]], (Cyfrol V; Rhif 8/9)
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr [[hanes]]ydd [[John Edward Lloyd|J.E. Lloyd]] (1861 – 1947), y llenor ac [[addysg]]wr [[Owen Morgan Edwards|O.M. Edwards]] (1858 – 1920) a'r ddau wleidydd [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Edward Ellis|Tom Ellis]] (1859 – 1899)a [[David Lloyd George]] (1863 – 1945)<ref>[https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/oriel-ddigidol/archifau/dyddiadur-lloyd-george/#?c=&m=&s=&cv=&xywh=-874%2C0%2C4545%2C3859 Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru;] adalwyd 4 Rhagfyr 2020</ref>. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd [[Beriah Gwynfe Evans]] (1848 – 1927) a [[Michael D. Jones]] (1822 – 1898).
Roedd cylchgrawn o'r un enw'n bodoli cyn ffurfio'r mudiad (yn debyg i Gymdeithas yr iaith). Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, ''[[Cymru Fydd (cylchgrawn)|Cymru Fydd]]'' yn [[Gymraeg]] a ''[[Young Wales]]'' yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'.
Yng Nghas-gwent, yng ngwanwyn 1896, cafodd ergyd farwol, ond erbyn hynny, roedd llawer o ganghennau wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac egin annibyniaeth wedi'i sefydlu ym meddyliau pobl. Roedd gan y mudiad aelod o staff llawn amser a
Gwelai Lloyd George fod yma gyfle i greu Cymru rydd, rhyddfrydol, gan dorri'r cysylltiad rhwng Rhyddfrydwyr Cymru a Rhyddfrydwyr Lloegr.
|