Culhwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dim delwedd
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: cymeryd → cymryd using AWB
Llinell 3:
Mae Culhwch yn fab i [[Cilydd]] fab Celyddon Wledig a [[Goleuddydd]], merch Anlawd Wledig. Wedi i Goleuddydd farw, mae Cilydd yn ail-briodi. Dymuniad ei lysfam yw i Culhwch briodi ei merch hi. Pan wrthyd Culhwch, mae ei lysfam yn ei dynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - "y forwyn decaf erioed".
 
Mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder [[Arthur]] i gael ei gymorth a'i gynghor. Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys [[Cai]] a [[Bedwyr]], yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgiau (''[[anoethau]]'') anodd os nad amhosibl. Mae'r rhain yn cynnwys ceisio [[Mabon fab Modron]] a hela'r [[Twrch Trwyth]]. Gwŷr Arthur sy'n cyflawni'r tasgau hyn, ac nid yw Culhwch ei hun yn cymerydcymryd fawr o ran ynddynt. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.
 
==Cyfeiriadau==