Diwydiant llechi Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Lleihad yn y cynnyrch: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: cymeryd → cymryd using AWB
Llinell 98:
Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar y diwydiant yn andwyol, yn enwedig yn ardal Blaenau Ffestiniog, lle roedd allforion i’r Almaen yn arbennig o bwysig. Caewyd Chwarel y Cilgwyn, yr hynaf yng Nghymru, yn 1914, er iddi ail-agor yn ddiweddarach. Yn 1917, ni chafodd y diwydiant llechi ei gydnabod fel diwydiant hanfodol, a chaewyd nifer o chwareli am weddill y rhyfel.<ref>Lindsay t. 260</ref> Daeth rhywfaint o dwf yn sgîl y galw am dai newydd ar ôl y rhyfel, ac yn chwareli Blaenau Ffestiniog roedd y cynnyrch bron yn ôl i lefel 1913 erbyn 1927. Ymhobman arall, fodd bynnag, roedd y cynnyrch yn parhau’n llawer is na chyn y rhyfel.<ref>Pritchard t. 24</ref> Bu gostyngiad arall yn y cynnyrch yn ystod Dirwasgiad Mawr y 1930au, gyda lleihad arbennig mewn allforion.<ref>Lindsay t. 294</ref>
 
O droad y ganrif, gwnaeth y chwareli ddefnydd cynyddol o beiriannau, gyda [[Trydan|thrydan]] yn cymerydcymryd lle ager a dŵr fel ffynhonnell pŵer. Agorodd Chwarel y Llechwedd orsaf drydan yn 1891, ac yn [[1901]] roedd [[Chwarel Croesor]] dan reolaeth [[Moses Kellow]] yn dibynnu'n llwyr ar drydan. Yn 1906, agorwyd gorsaf [[trydan dŵr]] yng Nghwm Dyli, ar lechweddau isaf [[Yr Wyddfa]], oedd yn cyflenwi trydan i amryw o’r chwareli mwyaf.<ref name="Williams t. 19">Williams t. 19</ref> Roedd defnyddio llif drydan ac offer arall yn lleihau’r gwaith caled wrth drin y graig, ond roedd hefyd yn cynhyrchu llawer mwy o lwch na’r hen ddulliau, gan arwain at gynnydd yng [[clefyd y llwch|nghlefyd y llwch]] ymysg y gweithwyr.<ref name="Williams t. 30">Williams t. 30</ref> Roedd y gwaith yn beryglus fel arall hefyd, gyda ffrwydro’r graig yn gyfrifol am lawer o ddamweiniau. Yn ôl ymchwiliad gan y llywodraeth yn 1893, roedd cyfradd marwolaethau gweithwyr yn y cloddfeydd llechi tanddaearol yn 3.23 y fil, yn uwch nag yn y pyllau glo.<ref name="Williams t. 27"/>
 
== Diwedd cynhyrchu ar raddfa fawr (1939–2005) ==