Cyn dyfodiad y dyn gwyn, roedd yma Frodorion Awstralaidd a wladychodd Awstralia a [[Tasmania]] o leiaf 50,000 [[CP]].
Mae arwynebedd Queensland yn 1,852,642 km sg (715,309 milltir sg) a'i boblogaeth yn {{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|Q242|P1082|P585}}, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn byw yn y de-ddwyrain. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yn y wladwriaeth yw [[Brisbane]], trydedd ddinas fwyaf Awstralia. Yn aml, cyfeirir ato fel "Gwladwriaeth yr Haul" (''"Sunshine State"''). Yn Queensland ceir 10 allan o 30 o ddinasoedd mwyaf Awstralia a hi yw 3edd economi fwyaf y wlad. Mae twristiaeth yn y wladwriaeth, yn bennaf oherwydd ei hinsawdd drofannol gynnes, yn ddiwydiant mawr.