Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 9:
Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw [[Kinshasa]].
 
Mae [[Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo|baner]] y wladwriaeth wedi newid sawl gwaith ers iddi ei hannibyniaeth yn 1960, oddi wrth [[Gwlad Belg]]. Y Prif Weinidog cyntaf oedd [[Patrice Lumumba]] (1925 – 1961) a'r Arlywydd oedd [[Joseph Kasa-Vubu]] (c. 1915 – 1969).
 
Ceir tystiolaeth o fodau dynol yno y wlad sy'n dyddio i 90,000 [[CP|Cyn y presennol]]. Rhwng [[14g]] a'r [[19g]] roedd Teyrnas y Congo yn rheoli, wedi'i chanoli yn aber [[Afon Congo]]. Y Cymro [[Henry Morton Stanley]] oedd y dyn gwyn cyntaf i archwilio'r Congo, a hynny ar ran Leopold II o Wlad Belg a ffurfiolwyd 'hawliau' Gwlad Belg i'r wlad yng Nghynghrair Berlin yn 1885. Rhoddwyd yr enw ''Talaith Rydd y Congo''' ([[Iseldireg]]: ''Kongo-Vrijstaat'') arni.
 
Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn hynod gyfoethog o ran adnoddau naturiol, ond mae ganddi ansefydlogrwydd gwleidyddol, diffyg seilwaith, problemau â llygredd a chanrifau o echdynnu mwynau; mewn geiriau eraill, mae wedi ei hecsbloetio. Heblaw am y brifddinas [[Kinshasa]], mae'r ddwy ddinas fwyaf wedyn, [[Lubumbashi]] a [[Mbuji-Mayi]], wedi'u seilio ar fwyngloddio. Mae allforio mwyaf y Congo yn fwynau amrwd, gyda [[Tsieina]] yn derbyn dros 50% o'i hallforion yn 2012. Yn 2016, roedd lefel [[datblygiad dynol]] y Congo yn y 176ed allan o 187 o wledydd gan y Mynegai Datblygu Dynol.
Llinell 17:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo}}
 
[[Categori:Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo| ]]
Llinell 24 ⟶ 26:
[[Categori:Gweriniaethau]]
[[Categori:Gwledydd a thiriogaethau Ffrangeg]]
{{eginyn Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo}}