Baner Brwnei: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 0 sources and tagging 1 as dead.) #IABot (v2.0.8
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 8:
Mae'r arwyddlun yn cynnwys lleuad [[cilgant]] (yn cynrychioli [[Islam]]) sydd wedi'i gyfuno ag [[ymbarél]] (yn cynrychioli [[brenhiniaeth]]) gyda dwy law yn pwyntio i fyny (gan awgrymu ewyllys da'r llywodraeth). Islaw'r lleuad cilgant mae rhuban. Ar y lleuad a'r rhuban cilgant mae arysgrif Arabeg yn cael ei gyfieithu i "Brunei, preswylfa heddwch" (Brunei Darussalam, بروني دارالسلام‎) ac arwyddair Brunei, "Mewn gwasanaeth bob amser gyda chanllawiau Duw" (الدائمون المحسنون بالهدى).
 
Mae'r [[paralelogram|paralelogramau]]au du a gwyn yn cynrychioli prif weinidogion y wlawriaeth<ref>{{cite book|title=The National Geographic Magazine|url=https://books.google.com/books?id=vvl_AAAAMAAJ|year=1935|publisher=National Geographic Society|page=384}}</ref> a oedd unwaith yn gyd-[[rhaglaw|raglawiaid]] ac yna – wedi i'r swltan ddod i oed – yn brif gyngyhorwyr iddo: y ''Pengiran Bendahara'' (Prif Weinidog, a gynrychiolir gan y band gwyn sydd ychydig yn fwy trwchus) a'r ''Pengiran Pemancha'' (Ail Weinidog, sy'n gyfrifol am faterion tramor, a gynrychiolir gan y band ddu). Mae'r band gwyn oddeutu 12% yn lletach na'r band ddu.<ref>{{cite book|title=The Flag Bulletin|url=https://books.google.com/books?id=EDIrAQAAIAAJ|year=1984|publisher=Flag Research Center|page=76}}</ref><ref>{{cite book|title=Annual Report: Brunei|url=https://books.google.com/books?id=mBofAQAAMAAJ|year=1946|publisher=H.M. Stationery Office|page=91}}</ref>
 
==Hanes==
Mae'r faner yn ei ffurf bresennol, ac eithrio'r arwyddlun, wedi ei defnyddio ers 1906 pan ddaeth Brunei yn diriogaeth drefedigaethol 'dan warchodaeth' Prydain wedi llofnodi cytundeb rhwng Brwnei a Phrydain Fawr.
 
Cafodd yr arwyddlun ei arosod ar y faner yn 1959 yn dilyn cyhoeddi Cyfansoddiad 29 Medi 1959.
 
Cadwyd y dyluniad pan enillodd y wlad ddibyniaeth lawn ar 1 Ionawr 1984 fel Brunei Darussalam (Brunei, "Preswylfa Heddwch").