Ysgol Gymraeg Pwll Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 0 sources and tagging 3 as dead.) #IABot (v2.0.8
→‎Hanes: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 37:
 
==Hanes==
Sefydlwyd yr ysgol ym 1996 dan arweiniad y brifathrawes Miss Anna Roberts. Am dair blynedd gyntaf ei bodolaeth, lleolid yr ysgol mewn adeilad ar safle [[Ysgol Uwchradd Fitzalan]]. Ym Medi 1999, symudodd i adeilad newydd ar dir gyferbyn â Fitzalan ar Lawrenny Avenue. Hi oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf yn y brifddinas i dderbyn adeilad newydd pwrpasol.
 
Cynyddodd nifer y disgyblion yn gyflym ac ym Medi 2000 derbyniwyd dau ddosbarth mynediad i'r ysgol. Gan hynny bu'n rhaid codi cabanau dros dro ar dir yr ysgol.<ref name="Estyn2005">[http://www.estyn.gov.uk/download/publication/150859.8/inspection-reportysgol-gymraeg-pwll-cochcym2005/ Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996: Ysgol Gymraeg Pwll Coch, 23-26 Mai 2005,] [[Estyn]].</ref> Yn 2006, cwblhawyd estyniad sylweddol ar gyfer yr ysgol uchaf a chyrhaeddodd yr ysgol ei llawn dwf gyda dau ddosbarth ym mhob blwyddyn yn 2008.<ref name="Estyn2011">[http://www.estyn.gov.uk/download/publication/202893.6/adroddiad-arolygiad-ysgol-gymraeg-pwll-coch-cym-2011/ Adroddiad ar Ysgol Gynradd Gymraeg Pwll Coch, 10-12 Mai 2011,] [[Estyn]].</ref>
Llinell 47:
Ym mis Chwefror 2019, agorodd Canolfan Adnoddau Arbenigol, Yr Hafan, yn yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu dwys. Agorwyd Yr Hafan yn swyddogol gan Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, ar Ddydd Gwener 22ain o Dachwedd 2019.
 
Agorodd Cylch Meithrin Pwll Coch ar safle’r ysgol ym mis Medi 2020 er mwyn cynnig sesiynau meithrin cyfrwng Cymraeg bore a phrynhawn ynghyd â Chlwb Cinio i blant sy’n mynychu dosbarthiadau meithrin yr ysgol.
 
Daw enw'r ysgol o'r Pwll Coch, sef pwll yn [[afon Elái]]. Rhoddodd y pwll ei enw i [[Pwll-coch|bentref bychan]] o'r un enw a safai ger tafarn Tŷ Pwll Coch. Mynn traddodiad fod y pwll wedi llenwi â gwaed yn dilyn [[Brwydr Sain Ffagan]] yn 1648. Nid yw'r ardal hon bellach yn rhan o ddalgylch yr ysgol.