Swffragét: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 45:
Nid oedd croeso i'r merched ym mhobman, a bu helynt a chythrwfl ar nifer o achlysuron wrth iddynt geisio lledaenu eu neges. Yn ystod Etholiad Cyffredinol 1910 roedd merched wedi ymgyrchu yn erbyn David Lloyd George ym mwrdeistref [[Caernarfon]] gyda'r slogan, "Pleidleisiwch yn erbyn eich anifail anwes, Canghellor y Trysorlys".<ref>{{Cite web|title=Ymgyrchu! - Pleidleisio - Merched - Ennill y Bleidlais|url=https://web.archive.org/web/20130719101535/http:/www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/EtholMerched/EnnillBleidlais/index.htm|website=web.archive.org|date=2013-07-19|access-date=2020-05-07}}</ref>
 
Roedd [[David Lloyd George]], fel aelod pwysig o’r llywodraeth a Phrif Weinidog yn ddiweddarach, yn darged cyson ar gyfer y protestiadau. Gwaeddodd Swffragetiaid ar draws ei areithiau yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] ac ym Mhafiliwn [[Caernarfon]] lle cafodd y protestwyr, yn ddynion a merched, eu curo gan y dorf.<ref>{{cite web|url=https://www.museumwales.ac.uk/893/|title=Historic Eisteddfodau and Gorseddau|accessdate=5 Chwefror 2016|work=museumwales.ac.uk|archive-date=2016-03-23|archive-url=https://web.archive.org/web/20160323001651/http://www.museumwales.ac.uk/893/|url-status=dead}}</ref> Ym 1912 cynhaliwyd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i’w bentref genedigol [[Llanystumdwy]] i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith, llusgwyd y protestwyr o’r neuadd yn filain iawn a chawsant eu curo. Tynnwyd dillad un o’r merched oddi arni a bu bron i un arall gael ei thaflu oddi ar bont [[Afon Dwyfor]] gerllaw i’r creigiau.<ref>{{cite web |url=https://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/EtholMerched/EnnillBleidlais/index-e.htm |title=Winning the vote for women in Wales |work=llgc.org.uk |accessdate=31 Mawrth 2016 |archive-date=2016-04-14 |archive-url=https://web.archive.org/web/20160414081053/https://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/EtholMerched/EnnillBleidlais/index-e.htm |url-status=dead }}</ref>
 
Targedwyd Plas Pinfold yn Surrey, oedd wedi ei adeiladu i Lloyd George, gyda dau fom ar 19 Chwefror 1913. Ffrwydrodd un gan greu difrod mawr. Yn hunangofiant [[Sylvia Pankhurst]] mae'n honni mai [[Emily Davison]] oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.