Taenlen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 4:
[[Rhaglen gyfrifiadurol]] sy' gymorth i storio a rhoi trefn ar [[data|ddata]] yw '''taenlen''' (Saesneg: ''Spreadsheet''); gwnâ hynny ar ffurf tabl. Datblygodd taenlenni o ffurf bapur, analog, a ddefnyddiwyd mewn [[cyfrifeg]] (''accountancy'') ers y [[1970au]].<ref>{{cite web|title=spreadsheet|url=http://www.merriam-webster.com/dictionary/spreadsheet|website=merriam-webster.com|publisher=Merriam-Webster|accessdate=23 Mehefin 2016}}</ref><ref>{{cite book|title=American Heritage Dictionary of the English Language|date=2011|publisher=Houghton Mifflin Harcourt Publishing Company|edition=5th|quote=A software interface consisting of an interactive grid made up of cells in which data or formulas are entered for analysis or presentation.}}</ref>
 
Mae'r rhaglen yn gweithio drwy archwilio data a fewnbynnir i gelloedd y daenlen; gall y wybodaeth ym mhob cell fod ar ffurf testun, rhif neu ganlyniad i [[fformiwla]] sy'n cyfrifo gwerthoedd yn otomatig. Gall y fformiwlâu hyn gymryd gwybodaeth o gelloedd eraill (neu daenlenni eraill) cyn trin a thrafod y wybodaeth o fewn y fformiwla, a'i allbynmu mewn cell arall.<ref>{{cite web|title=spreadsheet|url=http://whatis.techtarget.com/definition/spreadsheet|website=WhatIs.com|publisher=TechTarget|accessdate=23 Mehefin 2016}}</ref><ref>{{cite web|last1=Beal|first1=Vangie|title=spreadsheet|url=http://www.webopedia.com/TERM/S/spreadsheet.html|website=webopedia|publisher=QuinStreet|accessdate=23 Mehefin 2016}}</ref><ref>{{cite web|title=Spreadsheet|url=http://www.computerhope.com/jargon/s/spreadsh.htm|website=Computer Hope|accessdate=23 Mehefin 2016|archive-date=2016-06-21|archive-url=https://web.archive.org/web/20160621102503/http://www.computerhope.com/jargon/s/spreadsh.htm|url-status=dead}}</ref>
 
Ar wahân i fedru cyflawni swyddogaethau [[rhifyddeg]] sylfaenol a [[ffwythiant|ffwythiannau mathemategol]], mae taenlenni modern hefyd yn darparu is-raglenni sy'n unedau ffwythiannol parod ar gyfer cynorthwyo gweithgaredd sy'n ymwneud ag [[Arian (economeg)|arian]] ac [[ystadegaeth|ystadegau]]. Ceir mynegiant amodol hefyd yn ogystal â ffwythiannau sy'n trosi testun, rhif a hyd yn oed lluniau neu graffeg e.e. "Os yw'r tymheredd (y rhif yng nghell A14) yn uwch na 21, yna rhodder y testun "Diffodd" yng nghell A32."