Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 2:
Ffermwr yn ardal [[Penmorfa]], [[Tremadog]], oedd Owen Edwards. Roedd yn ddyn addysgiedig yn defnyddio safon uchel o Gymraeg ac yn ddylanwadol yn ei gymdeithas. Cychwynnodd y dyddiaduron sydd ar gael i ni yn [[1820]] gan barhau am 7 mlynedd. Mae un cofnod ganddo yn sefyll allan yn ei fanylder a'r chwilfrydedd mae'n datgelu am y dyddiadurwr mewn cyfnod ac ardal oedd eto i fwynhau gwir manteision addysg:
<blockquote>27 Mai 1820:.....Elin a minau yn mynd yn y Prydnhawn i Dy Mr. Owen Aberglaslyn yn gweled yno ddarn o asgwrn pen Carw a dau gorn y’nghlwm [sic] ynddo yn ddwy droedfedd o hyd a phedair Caingc [sic] ar bob un ac yn ddwyfodfeddarbymtheg a hanner o led o flaen i flaen wedi eu cael yn llyn Cerrigyrhwydwr wrth dynnu rhwyd ychydig o ddyddiau yn ôl gan Richd. William Tailiwr sydd yn byw yn Aberglaslyn. tebygyd ar yr olwg oedd arno ei fod yno er’s amryw flynyddau!!! Yn dyfod adref cyn naw o’r gloch.</blockquote>
Mae gwerth y cofnod hwn yn mynd ymhellach nag un bywyd unigol gan y bu gwastadeddau gleision mangre Cerrigyrhwydwr, ar y pryd (ychydig flynyddoedd yn unig ar ôl codi'r Cob, ger Porthmadog heddiw), yn gorfod bod yn forfa llanwol o heli a thywod, Mewn gair, onid pen pellaf y Traeth Mawr fel ag a fu oedd y fangre hon o hyd. A chofio gyda braint ein hôl-ddoethineb mai corff anifail ein gorffennol pell oedd y carw, wedi ei biclo mewn mawn fel cannoedd o rai eraill a ddaeth i'r fei wedyn, rhaid felly gofyn lle yn union oedd ''Llyn'' Cerrigyrhwydwr? Oedd morfa tywod Traeth Mawr yn gorwedd ar wely o fawn nid anhebyg i'r gro a'r tywod ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Llanaber ger y Bermo. Dyma'r math o ffrwyth anisgwyl a ddaw o bori manwl mewn hen ddogfennau o'r math, dogfennau na ddarllenodd neb lawer arnynt efallai am gyfnod hir iawn</br>
Mae cofnodion crynhoadol Dyddiadur Owen Edwards i'w gweld yma[https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=owen-edwards&bwletinau=True&dyddiadur=falseFalse&oriel=True&recordsperpage=25&currentpage=15#angori]