Samuel von Pufendorf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2:
[[Cyfreithegwr]] ac [[hanesydd]] [[Almaenwyr|Almaenig]] oedd '''Samuel Freiherr von Pufendorf''' ([[8 Ionawr]] [[1632]] – [[13 Hydref]] [[1694]])<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Samuel-Freiherr-von-Pufendorf |teitl=Samuel, baron von Pufendorf |dyddiadcyrchiad=25 Medi 2020 }}</ref> sydd yn nodedig am ei gyfiawnhad dros [[y ddeddf naturiol]] a'i gyfraniadau cynnar at ddamcaniaeth [[y gyfraith ryngwladol]].
 
Ganed Samuel Pufendorf yn Dorfchemnitz, ger Thalheim, yn [[Etholyddiaeth SachsenSacsoni]], un o daleithiau'r [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Dylanwadwyd arno yn gryf gan weithiau [[Thomas Hobbes]] a [[Hugo Grotius]]. Dadleuai Pufendorf bod cyfraith y cenhedloedd (''[[ius gentium]]'') yn gangen o'r ddeddf naturiol, ac nid cyfundrefn gyfreithiol trwy ordinhad y ddynolryw. Pwysleisiai hawl yr unigolyn i gydraddoldeb a rhyddid, a honnai taw [[heddwch]] yw cyflwr naturiol y byd. Cefnogai oruchafiaeth y wladwriaeth dros yr eglwys mewn cylchoedd seciwlar y gymdeithas, a chafodd y farn honno ddylanwad fawr ar gydberthynas yr eglwys a'r wladwriaeth yn yr Almaen yn y 18g. Ei brif draethodau cyfreithiol yw ''Elementa jurisprudentiae universalis'' (1661), ''De jure naturae et gentium'' (1672), a ''De habitu religionis Christianae ad vitam civilem'' (1687).
 
Addysgodd Pufendorf gyfreitheg ym mhrifysgolion [[Heidelberg]] o 1661 i 1668 ac yn [[Lund]] o 1668 i 1677. Ei brif waith ar bwnc hanes yw ''De statu imperii Germanici'' (1667). Fe'i benodwyd yn hanesydd brenhinol yn llysoedd [[Stockholm]] a [[Berlin]] yn niwedd ei oes. Rhoddwyd teitl [[barwn]] (''Freiherr'') iddo ym 1694, ychydig fisoedd cyn ei farw ym Merlin yn 62 oed.
Llinell 14:
[[Categori:Hanesyddion Almaenig yn yr iaith Ladin]]
[[Categori:Marwolaethau 1694]]
[[Categori:Pobl o SachsenSacsoni]]
[[Categori:Pobl o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig]]