Ernie George: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
 
== Gyrfa rygbi ==
Dechreuodd George, a oedd yn saer maen o ran ei alwedigaeth, ei yrfa rygbi gyda chlwb Llanilltud Fawr,<ref>[http://www.walesonline.co.uk/rugbynation/rugby-news/2008/01/23/the-major-influence-91466-20380409/ The Major Influence] Walesonline 23-01-08</ref> ond aeth oddi yno i chwarae i Bontypridd. Yn ystod ei gyfnod gyda Phontypridd y cafodd ei ddewis gyntaf i chwarae dros dim cenedlaethol Gymru. Chwaraeodd yn y pac yn y gem yn erbyn yr Alban fel rhan o [[Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1895|Bencampwriaeth y GwledyddPedair Cartref ynGwlad 1895]]. Roedd George yn un o ddau oedd flaenwr oedd yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yn y gem honno; [[Tom Pook]] o [[Clwb Rygbi Casnewydd|Gasnewydd]] oedd y llall. Bu'n gem agos a orffennodd gyda Chymru yn colli o 4-5, ac yn wynebu gem olaf yn erbyn Iwerddon i benderfynu pa un ohonynt fyddai'n cael y llwy bren. Cafodd George ei ddewis eto ar gyfer y gem yn erbyn Iwerddon ym [[Parc yr Arfau|Mharc yr Arfau]]. Roedd honno'n gem agos hefyd, gyda Chymru yn ennill am iddyn nhw lwyddo i drosi eu hunig [[Cais|gais]]. Chwaraeodd George un gem ryngwladol arall, sef gem agoriadol [[Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1896|Pencampwriaeth 1896]] oddi cartref yn erbyn Lloegr. Cafodd Cymru grasfa, gyda Lloegr yn sgorio saith cais a Chymru'n methu a chroesi'r llinell o gwbl. Canlyniad hynny oedd newid chwech o'r wyth blaenwr ar gyfer y gem nesaf. Roedd George ymhlith y chwech, ac felly y daeth ei yrfa ryngwladol i ben. 
 
=== Gemau rhyngwladol a chwaraewyd ===