Rhestr o ddwbledi yn y Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r rhestr hon yn cynnwys dwbledi sydd yn y Gymraeg. Mae gan yr iaith nifer o ddwbledi brodorol pan mae gair Proto-Indo-Ewropeg...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:00, 4 Mawrth 2021

Mae'r rhestr hon yn cynnwys dwbledi sydd yn y Gymraeg. Mae gan yr iaith nifer o ddwbledi brodorol pan mae gair Proto-Indo-Ewropeg gwreiddiol wedi datblygu yn wahanol trwy amser i greu geiriau gwahanol yn yr iaith fodern. Yn ogystal â hyn, mae'r Gymraeg wedi benthyca geiriau yn helaeth trwy'r ganrifoedd, yn enwedig o Ladin a Saesneg, dwy iaith Indo-Ewropeaidd arall, sydd wedi arwain at gyflwyno llawer mwy o ddwbledi yn yr iaith.

Rhestr o ddwbledi o fonau Proto-Indo-Ewropeg

Gellir olrhain tarddiad y geiriau canlynol yn ôl i Broto-Indo-Ewropeg. Yn aml iawn ymhlith y geiriau benthyg, benthyciodd y Saesneg air Lladin a fenthyciwyd yn nes ymlaen gan y Gymraeg.

Bôn Proto-Indo-Ewropeg Geiriau brodorol Geiriau benthyg (a ffynhonnell y gair)
*albʰós "gwyn" Alban (Gwyddeleg), Alpau (Lladin trwy'r Saesneg)
*bak- "pèg, pastwn" bachyn baglau (Lladin), pèg (Germaneg trwy'r Saesneg)
*bikkos "bach" bach, bychan
*bʰask- "sypyn"

(neu fôn nad yw'n PIE o bosibl)

baich ffagod, ffasgydd (Lladin trwy'r Saesneg)
*bʰeg "plygu, crymu" banc, mainc
*bʰel- "chwythu, chwyddo" bol Belg (ôl-ffurfiad o'r Lladin), bolster, ffôl, powld (Saesneg), ffalws (Groeg trwy'r Saesneg)
*bʰendʰ- "rhwymo, clymu" moes (dan ddylanwad y Lladin) band, bond (Saesneg)
*bʰer- "dwyn, cario" aber, aberth, cymer, ofer, bryd, bron (tebygol) affêr, offrwm (Lladin trwy'r Saesneg), berfa, brest (Saesneg)
*bʰerǵʰ- "codi, uchel, bryn" bre ("bryn"), bri, braint, bwrw, Ffraid (santes), lledrith (lled + brith) bwrdais (Germaneg neu Ladin trwy'r Saesneg)
*bʰleh₃ "blodyn" blodyn fflora (Lladin trwy'r Saesneg)
*bʰrewh "berwi, bragu" berw, brwd
*bʰrónts amrant, brwd ffrynt (tebygol; Lladin trwy'r Saesneg)
*bʰuH- "mynd yn, tyfu, ymddangos" bod, bôn, dod bwthyn (Saesneg), ffiseg, ffylwm (Groeg trwy'r Saeneg), prawf (Lladin),
*gʰer- "rhwbio, malu, dileu" bras gros (Lladin trwy'r Saesneg)
*gʷerH- "canmol, dyrchafu" bardd, barn, brawd ("barn"), brennig gras (Lladin trwy'r Saesneg)
*gʷeyh₃- "byw" bwyd, byd, byw bio-, swo- (Groeg trwy'r Saesneg)
*gʷṓws "gwartheg" baw, bugail, buwch
*gʷréh₂us "trwm" breuan baro- (Groeg trwy'r Saesneg),
*h₂eǵ- "gyrru" amaeth act, actor (Lladin trwy'r Saesneg)
*h₂eḱ- "miniog" eithin, ocr, oged astud (Lladin, o bosibl trwy'r Hen Ffrangeg), asid (Lladin trwy'r Saesneg), ocsigen (Groeg trwy'r Saesneg)
*h₂enk- "troad, plygiad" crafanc angor (Lladin), ongl (Saesneg)
*h₂ep- "dŵr" afanc, afon epa (Saesneg), acwariwm (Lladin trwy'r Saesneg)
*h₂ey- "bywyd, oes" ifanc, oes ustus (Lladin trwy'r Saesneg)
*h₂élyos "y tu hwnt, arall" ail, arall, oll, llall
*h₂erh₃- "aredig" aradr, aredig, erw
*h₂enh₁- "anadlu" anadl, enaid
*kagʰ- "cymryd, cipio" cae, cael, caen, caer, cau
*neḱ- "marw, diflannu" angau neithdar (Groeg trwy'r Saesneg)
*perḱ- "agor, rhwygo, palu" rhych porc (Lladin trwy'r Saesneg), porchell (Lladin),
*ten- "estyn" dan, tan, tant, tynnu (tebygol) estyn (Lladin), tonsil (Lladin trwy'r Saesneg)

Rhestr o ddwbledi o fonau eraill

Gyda'r geiriau canlynol, nid oes modd olrhain ffynhonnell yn bellach yn ôl neu nid yw'r bôn Indo-Ewropeg cynharach wedi rhoi mwy o eiriau i'r iaith.

Ffynhonnell Geiriau brodorol Geiriau benthyg
furca "fforch" (Lladin) fforch (Lladin), fforc (Lladin trwy'r Saesneg)
cūra "gofal, pryder" (Lladin) cur (Lladin), sicr (Lladin trwy'r Saesneg), siŵr "front" (Ffrangeg trwy'r Saesneg)

Cyfeiriadau