Benthyg geiriau i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 40:
 
Ers twf [[dwyieithrwydd]] a [[Seisnigeiddio]] yng Nghymru mae llu o eiriau Saesneg wedi eu benthyg ac yn dal i gael eu benthyg. Yn gyffredinol po ddiweddaraf yw'r benthyciad po amlycaf yw tarddiad Saesneg y gair. Wrth gael eu cymathu i'r Gymraeg mae berfau Saesneg yn aml yn magu'r terfyniad '''–o'''. Weithiau fe ddisodlir gair Cymraeg gan derm newydd, e.e. '''swnd''' am '''dywod'''. Tro arall ceir gwahaniaeth ystyr rhwng yr ymadrodd newydd a'r ymadrodd gwreiddiol Saesneg, e.e. '''wedi mynd''' ac '''wedi went'''. Defnyddir '''wedi went''' yn y de i olygu bod rhywbeth wedi mynd i ben, bod cyflenwad rhywbeth wedi dibenni neu fod rhywun neu rywbeth wedi mynd â'ch gadael.<ref>Mary Wiliam, ''Dawn Ymadrodd'', t 29, (Gwasg Gomer, 1978)</ref> Mae'r gair benthyg '''seiat''' yn golygu cyfarfod Eglwys ac yn tarddu o'r gair Saesneg '''society'''. Cynhwysir y benthyciadau canlynol ar un dudalen yng ''[[Geiriadur Prifysgol Cymru|Ngeiriadur Prifysgol Cymru]]''; '''weierles''', '''wëid''', '''weindio''', '''weiper''', '''weirio''', '''weiter''', '''weitwash''', '''wej''', '''wejen''', '''wel''', '''welcwm''', '''weldio''', '''welintons'''.
 
== Dwbledi ==
{{Prif|Rhestr o ddwbledi yn y Gymraeg}}
 
Mae'r iaith Gymraeg yn cynnwys nifer o ddwbledi, sef geiriau sydd wedi dod o'r un bôn ond wedi datblygu yn eiriau gwahanol yn yr iaith fodern. Weithiau, mae'r geiriau hyn yn rhai brodorol, hynny yw, maent wedi datblygu yn annibynnol o fewn y Gymraeg. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys '''anadl''' ac '''enaid''' sydd yn dod o'r bôn Proto-Indo-Ewropeg *''h₂enh₁-'' "anadlu" neu '''cae''', '''cael''', '''caen''', '''caer''' a '''cau''' sydd i gyd yn dod o ''*kagʰ-'' "cymryd, cipio". Yn ogystal â hyn, mae geiriau benthyg yn ffynhonnell dwbledi, er enghraifft, datblygodd y gair *''h₂enk-'' "troad, plygiad" yn '''-anc''' yn y gair brodol '''crafanc''' ond hefyd benthyciwyd y gair Lladin '''angor''' a'r gair Saesneg '''ongl''' sydd ill dau yn dod o'r un bôn.
 
== Ffynonellau ==