Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
cynnwys
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 3:
Casgliad o draethodau ar amryw bynciau gan yr athronydd Seisnig [[Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury]] yw '''''Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times''''' a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol ym 1711.
 
Mae'r casgliad yn cynnwys ysgrifaupump ysgrif a gyhoeddwyd o'r blaen, wedi eu hadolygu – "A letter concerning enthusiasm to my Lord *****" (ysgrifennwyd 1707, argraffwyd 1708), "Sensus communis" (1709), "Soliloquy, or advice to an author" (1710), "An inquiry concerning virtue or merit" (1699) a "The moralists" (1709) – gydag ychwanegiadau, mewn pum rhan, dan yr enw "Miscellaneous reflections".<ref>Thomas Fowler, ''Shaftesbury and Hutcheson'' (Llundain: Sampson Low, Marston, Searle, & Rivington, 1882), tt. 30–1.</ref> Bu'n hynod o boblogaidd ymhlith darllenwyr yng Ngwledydd Prydain ac ar gyfandir Ewrop trwy gydol y 18g, a chafodd ei ystyried yn un o brif gyfraniadau Lloegr at athroniaeth [[yr Oleuedigaeth]]. Er bod ysgrifeniadau Shaftesbury wedi colli ffafr ym maes athroniaeth yn y ddwy ganrif ddiwethaf, mae'r ''Characteristicks'' o hyd yn ffynhonnell bwysig i ysgolheigion am hanes crefydd ac anghrefydd, moeseg, estheteg, y ddisgwrs wleidyddol, y celfyddydau, garddio, a rhywedd yn Lloegr yn nechrau'r 18g.
 
Mewn cyflwyniad i argraffiad un-gyfrol Cambridge University Press o'r ''Characteristicks'', ysgrifennai'r golygydd Lawrence E. Klein ei fod yn cynnwys "asesiad optimistaidd o gosmos trefnus, hyder mewn cymdeithasgarwch a chydymdeimlad dynol, cysoni profiad moesegol ac esthetaidd, pwysleisiadau ar ryddid a goddefiad, ac ymroddiad i rôl athroniaeth mewn addysgu'r ddynolryw".<ref>Lawrence E. Klein (gol.), ''Anthony Ashley Cooper, Third Earl of Shaftesbury: Characteristics of Men, Manners, Opinions, Times'' (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2000), t. vii</ref>