Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Parêd"

Ychwanegwyd 1,337 beit ,  blwyddyn yn ôl
UDA
B (→‎Cyfeiriadau: clean up)
(UDA)
Tagiau: 2017 source edit
 
[[Delwedd:St Davids Day in Cardiff.jpg|bawd|Parêd i ddathlu [[Dydd Gŵyl Dewi]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], 2007.]]
Sioe gyhoeddus yw '''parêd''' a'i brif nodwedd yw [[gorymdaith]] drefnus neu seremonïol.<ref name=GPC>{{dyf GPC |gair=parêd |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref><ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/442477/parade |teitl=parade |dyddiadcyrchiad=31 Awst 2014 }}</ref> Ceir rhywfaint o rodres i barêd o ran gwisg, canu a cherddoriaeth, baneri, [[balŵn|balwnau]], anifeiliaid, a cherbydau. Yn aml digwyddiad blynyddol yw'r parêd sy'n dathlu gŵyl, er enghraifft dyddiau'r seintiau, gwyliau crefyddol, dyddiadau annibyniaeth, neu ddathliadau "balchder" (er enghraifft [[balchder hoyw]]). Ceir "Parêd y Cenhedloedd" mewn seremonïau agoriadol nifer o gystadlaethau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys [[Gemau Olympaidd Modern|y Gemau Olympaidd]] a [[Gemau'r Gymanwlad]].
 
Mae paredau yn hynod o boblogaidd yn [[Unol Daleithiau America]] fel modd i fynegi cyd-hunaniaeth mewn ardaloedd trefol, ac fel cyfle i hyrwyddo ymgyrchoedd gwleidyddol neu hysbysebu busnesau yn yr awyr agored ac ar y teledu. Un o'r diwrnodau parêd mwyaf poblogaidd yw Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ar 4 Gorffennaf, a nodir gan seindorfeydd, baneri, gorymdeithiau o filwyr a chyn-filwyr, a thân gwyllt mewn dinasoedd a threfi ar draws y wlad. Pob Mehefin, cynhelir Parêd Diwrnod [[Puerto Rico]] ar hyd Fifth Avenue, [[Manhattan]], gan ddenu miliynau o wylwyr. Ymhlith y gwyliau eraill a nodir gan baredau ar gyfer hunaniaethau ethnig a diwylliannol mae Gŵyl [[Sant Padrig]], nawddsant y Gwyddelod, a Cinco de Mayo ar gyfer Americanwyr o dras Fecsicanaidd. Mae rhai paredau yn sioeau ysblennydd a ariennir gan gwmnïau i hybu cystadlaethau chwaraeon neu i ddenu hysbysebwyr a chwsmeriaid. Noddir parêd mwyaf y byd gan y [[siop adrannol]] Macy's yn [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] ar Ddiwrnod y Diolchgarwch, sydd yn nodedig am ei falwnau enfawr o gymeriadau cartŵn. Arddangosir paredau yn ddyddiol mewn parciau thema [[Disney]].<ref>Gary McDonogh, "Parades" yn ''Encyclopedia of Contemporary American Culture'', golygwyd gan Gary W. McDonogh, Robert Gregg, a Cindy H. Wong (Llundain: Routledge, 2001), t. 846.</ref>
 
Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.<ref name=GPC/>
72,565

golygiad