Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
Mae union ddyddiad adeiladu'r ffordd yn anhysbys, ond mae'n debyg i'r gwaith cyntaf gael ei wneud tua diwedd y [[Y ganrif 1af|ganrif gyntaf]] OC ac iddi gael ei gwblhau yn hanner cyntaf y ganrif nesaf.
 
[[Delwedd:Ffordd Rufeinig (Caerhun-Segontium).JPG|250px|bawd|chwith|Rhan o'r ffordd Rufeinig rhwng [[Caer]] a [[Segontiwm]] lle mae'n dringo o [[Caerhun|Gaerhun]] i gyfeiriad [[Bwlch-y-Ddeufaen]] ar ei ffordd i Segontiwm]]
 
[[Delwedd:Roman Mile Stone, Near Llanfairfechan. - geograph.org.uk - 104811.jpg|200px|bawd|chwith|Carreg filltir Rufeinig (copi ar y safle gwreiddiol) ger Llanfairfechan.]]
 
O ''Deva'' mae'r ffordd yn rhedeg ar gwrs gogledd-orllewinol i gyffiniau [[Dinas Basing]], ar [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]], ar ôl croesi [[Afon Dyfrdwy]] ei hun ger y bont bresennol tu allan i Gaer. Cafwyd hyd i olion Rhufeinig ger y ffordd ynym [[Pentre (Sir y Fflint)|Mhentre]] ([[Sir Fflint]]). O Ddinas Basing try i'r gorllewin ac mae'n parhau felly hyd Segontiwm. Ger [[Llanelwy]] mae'n croesi [[Afon Elwy]] ac [[Afon Clwyd]] ar ôl [[Bwlch|bylchu]] [[Bryniau Clwyd]] ger [[Rhuallt]] (mae'r A55 yn dilyn yr un cwrs yn union). Credir y lleolwyd caer Rufeinig [[Varis]] yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr.
 
O Ddyffryn Clwyd mae'r ffordd yn codi ac yn croesi'r bryniau isel tua deg milltir o'r arfordir, gan osgoi tir corsiog a choed yr iseldiroedd. Mae'n cyrraedd [[Dyffryn Conwy]] ger [[Eglwysbach]]. Sefydlwyd fferi yn [[Tal-y-Cafn|Nhal-y-Cafn]] i groesi [[Afon Conwy]] a chodwyd caer bwysig yn [[Caerhun|Nghaerhun]], yr ochr arall i'r afon.